Manylion y penderfyniad

Applications Arising

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

7.1         27C106E/FR/ECON - Cais llawn i wella’r briffordd gyfredol (yr A5025) rhwng y gyffordd ar yr A5 i’r dwyrain o’r Fali i’r Gyffordd wrth y Ffordd Fynediad i’r Orsaf Bŵer arfaethedig mewn wyth o leoliadau ar wahân ynghyd ag ailadeiladu a lledu’r pafin presennol a’r gorffenwaith ar yr arwynebedd mewn mannau, gweithredu compownd adeiladu dros dro gan gynnwys cyfleuster dros dro ar gyfer ailgylchu pafinau, creu dau bwll teneuo a mynedfa ar gyfer cynnal a chadw, creu llwybrau beicio a gwyro rhai eraill am gyfnod dros dro, creu cyfleusterau parcio eraill yn sgil colli cilfan ynghyd â gwaith cysylltiedig arall gan gynnwys draenio, trin ffiniau, plannu, gosod arwyddion newydd a marciau ar hyd yr A5025 rhwng y Gyffordd ar yr A5 i’r Dwyrain o’r Fali i’r Orsaf Bŵer yng Nghemaes.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig a bod amod ychwanegol yn cael ei osod yn unol â gofynion Asiantaeth Priffyrdd Llywodraeth Cymru (er bod gan y Swyddog farn wahanol) bod gwelliannau i’r ffordd tuag at Safle Wylfa Newydd yn cael eu cwblhau cyn i unrhyw waith ddechrau ar y safle. 

 

7.2         46C615/AD – Cais i leoli arwydd heb ei oleuo ynghyd â gosod mesurydd parcio ym maes parcio uwchben Canolfan Ymwelwyr Ynys Lawd, Caergybi

 

PENDEFYNWYD cadarnhau’r penderfyniad i wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog ar y sail y byddai codi mesurydd parcio ar y safle yn debygol o gael effaith negyddol ar ddiogelwch priffyrdd; nad oes llwybr troed i’r safle a bod y safle wedi ei ddefnyddio fel man troi ar gyfer cerbydau dros y blynyddoedd. 

 

(Bu’r Cynghorwyr John Griffith, R O Jones a Robin Williams atal eu pleidlais ar y sail eu bod yn ystyried bod y cais yn dderbyniol yn nhermau polisi Cynllunio ond nad oeddent yn cytuno â’r egwyddor o godi tȃl).

 

7.3         49C333A/FR – Cais llawn i newid defnydd y capel gwag yn annedd ynghyd ag addasu a chodi balconi ar y llawr cyntaf yng Nghapel Hermon, Field Street, Y Fali.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau’r penderfyniad i gymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog ar y sail yr ystyrir bod y cais yn cydymffurfio â TAN13 o ran bod yr adeilad wedi bodoli ar y safle am nifer o flynyddoedd a’i fod yn ddigon uchel er mwyn lleihau’r risg o lifogydd. 

 

Dyddiad cyhoeddi: 04/07/2018

Dyddiad y penderfyniad: 04/07/2018

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 04/07/2018 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Dogfennau Cefnogol: