Manylion y penderfyniad

Departure Applications

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

10.1      33C284B/DEL –  Cais dan Adran 73 i gael gwared ar amodau (10) (côd ar gyfer cartrefi cynaliadwy), (11) (côd ar gyfer cartrefi cynaliadwy), (12) (côd ar gyfer cartrefi cynaliadwy), (20) (troedffordd) ynghyd â rhyddhau amodau (07) (disgrifiadau masnach a deunyddiau), (08) (dull amgáu) a (09) (manylion draenio), er mwyn darparu disgrifiadau masnach o’r deunyddiau y bwriedir eu defnyddio ar arwynebeddau allanol, manylion llawn am y dulliau amgáu y bwriedir eu defnyddio o fewn ac o gwmpas y safle a’r manylion draenio fel rhan o’r cais Cynllunio gyfredol. Amrywio amodau (13) (ffenestri) a (21) (yn unol â’r cynlluniau a gymeradwywyd) er mwyn diwygio’r cynlluniau a gymeradwywyd mewn perthynas â chaniatâd Cynllunio 33C284A (codi 3 annedd newydd ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau) ar dir gyferbyn â Holland Arms, Pentre Berw.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.  

 

10.2      49C289K/VAR – Cais o dan Adran 73A i ddiwygio amodau (02) er mwyn caniatáu diwygiadau i gosodiad y safle a dyluniad o unedau 2, 3, 4, 5, 6, 7, 8, 9 a 12, (06) er mwyn caniatáu i’r rhaglen o waith archeolegol cael ei gyflwyno a’i ryddhau wedi i’r gwaith gychwyn, (09) er mwyn caniatáu diwygiadau i’r darpariaethau parcio moduron ynghyd â dileu amod (11) (lefelau llawr gorffenedig) o ganiatâd cynllunio rhif 49C289 (newid adeiladau allanol yn 12 annedd) yn Cleifiog Fawr, Lôn Gorad, Y Fali.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.   

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 04/07/2018

Dyddiad y penderfyniad: 04/07/2018

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 04/07/2018 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Dogfennau Cefnogol: