Manylion y penderfyniad

Application Arising - Wylfa Newydd, Cemaes

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

7.6  38C310F/EIA/ECON - Gwaith paratoi a chlirio’r safle ar gyfer datblygu gorsaf bŵer Wylfa Newydd, yn cynnwys y gweithgareddau canlynol: clirio'r safle (gan gynnwys clirio a rheoli llystyfiant, tynnu ffensys, waliau, giatiau, ffiniau caeau, strwythurau presennol (gan gynnwys adeiladau), prysg, coed a nodweddion eraill sydd ar y tir); gwaith sefydlu'r safle (gan gynnwys gosod croesfan newydd ar draws ffordd fynediad gorsaf bŵer bresennol Magnox, ffurfioli pwyntiau croesi presennol i gerbydau ar draws Ffordd Cemlyn, ffurfioli llwybrau i gerbydau, gosod ffens adeiladu o amgylch perimedr y safle, sefydlu ardaloedd gosod, compowndiau storio deunyddiau, compowndiau adeiladu ac adeiladau lles/swyddfa dros dro cysylltiedig, meysydd parcio, cyswllt llwybr troed cysylltiedig rhwng prif gompownd y safle a maes parcio cyn Glwb Cymdeithasol a Chwaraeon Wylfa, lle i storio tanwydd, ffensys diogelwch, a nodweddion diogelwch a draenio); gwaith gwella'r tir (gan gynnwys sefydlu compownd prosesau adfer a ffensys cysylltiedig, storio deunyddiau wedi'u prosesu/wedi'u trin, sefydlu traciau mynediad cysylltiedig, draenio, cloddio a thrin priddoedd sy'n debygol o fod yn

halogedig, a thrin a thynnu rhywogaethau estron goresgynnol); dargyfeirio a/neu gau Ffordd Cemlyn dros dro gyda mynediad at Dy Croes (Maes Parcio’r Pysgotwyr) yn cael ei reoli; gwaith cysylltiedig arall a chynllun adfer i ddychwelyd y safle i gyflwr derbyniol os na fydd datblygiad gorsaf bŵer Wylfa Newydd yn mynd rhagddo yn Wylfa Newydd, Cemaes

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig ac yn amodol ar gwblhau Cytundeb A106 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (fel y’i diwygiwyd).   

Dyddiad cyhoeddi: 05/09/2018

Dyddiad y penderfyniad: 05/09/2018

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 05/09/2018 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Dogfennau Cefnogol: