Manylion y penderfyniad

Applications Arising

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

7.1       19C232E/FR – Cais llawn ar gyfer dymchwel yr adeilad presennol ynghyd â chodi gwesty ac uned defnydd masnachol (Dosbarth A3) newydd yn ei le yn 55 Stryd y Farchnad, Caergybi

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y swyddog gyda’r amodau yn yr adroddiad.

 

7.2       23C301C - Cais llawn ar gyfer newid defnydd adeilad allanol i anecs i’w ddefnyddio fel llety gofalwr ym Mhen y Garreg, Talwrn

 

Penderfynwyd gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y swyddog ac am y rhesymau a amlinellir yn yr adroddiad ysgrifenedig. 

 

7.3       36C193P/ENF - Cais llawn ar gyfer cadw dau gynhwysydd storio ynghyd â lleoli 10 cynhwysydd storio ychwanegol ar dir yng Nghefn Uchaf, Rhostrehwfa

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad ysgrifenedig y swyddog gyda’r amodau oedd yn yr adroddiad a hefyd ar yr amod y câi amod (02) ei ddiwygio mewn perthynas â thirlunio yn y ffordd a amlinellir.

 

7.4       39LPA1046/CC – Cais llawn ar gyfer creu cyfleuster Parcio a Theithio ynghyd a chreu mynedfa newydd i gerbydau â datblygiad cysylltiedig ar dir ger Tŷ Tafarn y Four Crosses, Porthaethwy

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad ysgrifenedig y swyddog gyda’r amodau oedd yn yr adroddiad ac amodau ychwanegol mewn perthynas â gwaith lliniaru ecolegol a chynnal y pwll gwanhau, ac yn amodol hefyd ar gytundeb adran 106.

 

7.5       41LPA1041/FR/TR/CC – Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol i’w ddefnyddio fel man aros dros dro (10 llecyn) ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr, creu mynedfa gerbydau newydd, ffurfio mynedfa newydd i gerddwyr a phafin ynghyd â datblygiadau cysylltiedig ar dir i’r dwyrain o Groesffordd Star, Star

 

Penderfynwyd gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y swyddog am y rheswm bod y bwriad yn mynd yn groes i Bolisi TAI 19, maen prawf  4 yng nghyswllt lefelau sŵn.

 

Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, cafodd y cais ei ohirio’n awtomatig tan y cyfarfod nesaf fel bod y Swyddogion yn cael y cyfle i baratoi adroddiad am y rheswm dros wrthod y cais.

 

7.6       38C310F/EIA/ECON – Wylfa Newydd, Cemaes

 

Ystyriwyd y cais hwn gan y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yng nghyfarfod cynharach y Pwyllgor y bore hwnnw.

Dyddiad cyhoeddi: 05/09/2018

Dyddiad y penderfyniad: 05/09/2018

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 05/09/2018 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Dogfennau Cefnogol: