Manylion y penderfyniad

Council Tax Premiums - Second Homes and Long-Term Empty Property (Review of First Year)

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

Penderfynwyd

 

           Nodi cynnwys yr adroddiad sy’n adolygu blwyddyn gyntaf premiwm y Dreth Gyngor yn ystod blwyddyn ariannol 2017/18 a hyd yn hyn am 2018/19.

           Cynnal ymgynghoriad cyhoeddus llawn ynglŷn â chodi Premiwm y Dreth Gyngor i 100% ar eiddo gwag tymor hir ac i 35% ar ail gartrefi. Gwneir hyn fel rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion Cyllideb 2019/20.

           Argymell y dylai £170k ychwanegol y flwyddyn y bydd y premiwm yn ei greu gael ei neilltuo am y ddwy flynedd nesaf (cyfanswm o £340k) i’r cynlluniau a fwriadwyd i gynorthwyo prynwyr tro cyntaf er mwyn cynyddu nifer yr ymgeiswyr y gellir eu cynorthwyo.

           Bod y Prif Weithredwr a’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog Adran 151 mewn ymgynghoriad â’r Deilydd Portffolio yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i amlygu’r angen i gael gwared â’r anghysondeb cyfreithiol lle mae modd trosglwyddo ail gartrefi yn y system Dreth Gyngor i drethi busnes.

 

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 12/11/2018

Dyddiad y penderfyniad: 12/11/2018

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 12/11/2018 - Pwyllgor Gwaith

Dogfennau Cefnogol: