Manylion y penderfyniad

Modernising Anglesey Schools – Full Business Case (FBC) for the a new primary school to replace Ysgol Bodffordd and Ysgol Corn Hir

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ie/ydw/oes/

Penderfyniadau:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyriedadroddiad y Pennaeth Dysgu yn ymgorffori’r Achos Busnes Llawn am ysgol gynradd newydd yn lle Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir.

 

Am ei fod wedi datgan diddordeb personol a oedd yn rhagfarnu yn yr eitem hon, gadawodd y Cynghorydd Richard Dew y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r penderfyniad ar yr eitem.

 

Adroddodd y Pennaeth Dysgu fod yr Achos Busnes Llawn yn egluro’r cyfiawnhad strategol, economaidd, masnachol, ariannol a rheolaethol dros y cynnig. Mae hefyd yn cynnwys y manylebau ar gyfer yr ysgol newydd a’r amserlen yn nghyswllt rheoli prosiect a chwblhau’r ysgol. Bydd cael sêl bendith Llywodraeth Cymru i’r Achos Busnes Llawn yn sicrhau 50% o’r cyllid ar gyfer y prosiect. Dywedodd y Swyddog y bu Ysgol Henblas yn rhan o’r penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith ar 30 Ebrill, 2018 i gymeradwyo Opsiwn 2, sef adeiladu ysgol newydd yn lle ysgolion Bodffordd a Corn Hir a chadw darpariaeth addysgol yn Llangristiolus trwy naill ai gadw Ysgol Henblas yn ei ffurf bresennol neu drwy ei huno gyda’r ysgol newydd i ffurfio ysgol aml-safle. Roedd y penderfyniad hwn yn ddibynnol ar gael sicrwydd bod safonau yn Ysgol Henblas yn gwella a bod niferoedd y disgyblion yn aros yn gyson. Bu ail-arolwg gan Estyn yn yr ysol ym mis Hydref 2019, ac mae canlyniadau’r arolwg hwnnw yn cadarnhau bod cynnydd wedi digwydd yn erbyn yr argymhellion o’r arolwg gwreiddiol ym mis Mai, 2017; hefyd, mae’r rhagamcanion ar gyfer niferoedd disgyblion yn dangos y byddant yn aros yn gyson dros y 3 blynedd nesaf. Felly, mae’r Awdurdod yn teimlo ei fod wedi cael sicrwydd mewn perthynas â safonau’n gwella a sefydlogrwydd niferoedd y disgyblion yn Ysgol Henblas, fel bod modd tynnu’r ysgol o’r cynnig.

 

Adroddodd y Cynghorydd Dylan Rees o gyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar 19 Mawrth, 2019 lle cafodd yr Achos Busnes Llawn ei drafod. Diweddarwyd y Pwyllgor ynghylch, ac fe nododd sut mae’r Achos Busnes Llawn yn rhoi sylw i’r materion yr oedd wedi eu codi’n flaenorol yn y cam Achos Amlinellol Strategol mewn perthynas â materion priffyrdd a digon o lefydd parcio; materion traffig a diogelwch y ffordd yng nghyffiniau’r ysgol newydd, a dyfodol Canolfan Bodffordd fel adnodd cymunedol a fforddiadwyedd y cynnig. Nododd y Pwyllgor hefyd y sefyllfa well yn Ysgol Henblas erbyn hyn, ac o ganlyniad i’r wybodaeth a’r pwyntiau o eglurhad a dderbyniwyd, roedd yn argymell y dylid cymeradwyo’r Achos Busnes Llawn a thynnu Ysgol Henblas o’r cynnig.

 

Rhoddodd Bennaeth Dros Dro y Gwasanaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo amlinelliad o’r trefniadau rheoli traffig yng nghyffiniau’r ysgol newydd.

 

Penderfynwyd

 

           Cymeradwyo’r Achos Busnes Llawn (ABLl) ar gyfer yr ysgol gynradd newydd yn lle Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir.

           Cymeradwyo cyflwyno’r Achos Busnes Llawn i Lywodraeth Cymru.

           Cymeradwyo clustnodi derbyniadau cyfalaf ar gyfer adeiladu’r ysgol gynradd newydd, ar yr amod na fydd problemau’n codi gyda gwerthu’r safle(oedd).

           Bod Ysgol Henblas yn cael ei thynnu o’r cynnig oherwydd bernir bod safonau’r ysgol wedi gwella a bod nifer y disgyblion yn yr ysgol yn aros yn gyson.

 

Dyddiad cyhoeddi: 25/03/2019

Dyddiad y penderfyniad: 25/03/2019

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 25/03/2019 - Pwyllgor Gwaith

Effective from: 05/04/2019

Dogfennau Cefnogol: