Manylion y penderfyniad

Applications Arising

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

 

7.1  FPL/2019/13 - Cais llawn ar gyfer codi sied amaethyddol i gadw anifeiliaid a storio peiriannau a bwyd ynghyd ag adeiladu trac mynediad llain caled ar dir ger Mast Teleffon, Nebo

 

PENDERFYNWYD ail-gadarnhau’r cais i gymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y swyddog ac i roi’r awdurdod i’r Swyddog lunio amodau o ran tirlunio’r safle a’r fynedfa iddo. 

 

7.2  FPL/20/2018/57 – Cais llawn ar gyfer codi 46 o anheddau ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau ar dir ger Parc Tyddyn Bach, Caergybi.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig a bod cytundeb cyfreithiol A106 yn cael ei lofnodi mewn perthynas â’r ddarpariaeth tai fforddiadwy, llecynnau agored a’r cynllun ar gyfer moch daear fel a nodir yn yr adroddiad.

 

7.3 FPL/2018/52 – Cais llawn ar gyfer codi ystafelloedd newid a thŷ clwb newydd ar gyfer Clwb Rygbi Caergybi yng Nghlwb Rygbi Caergybi, Ffordd Bryn y Môr, Y Fali.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig a bod amod ychwanegol yn cael ei gynnwys, sef bod cynllun goleuadau’n cael ei gyflwyno a’i gymeradwyo cyn eu gosod ar y safle.

 

7.4   FPL/2-19/31 – Cais llawn ar gyfer addasu adeilad allanol yn uned ar gyfer ei gosod ar gyfer gwyliau ynghyd â gosod tanc septig newydd yn Tŷ Mawr, Pentraeth.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd tybir bod yr uned wyliau’n cydymffurfio gyda pholisïau cynllunio ac y daw â buddion economaidd.

 

Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, cafodd y cais ei ohirio’n awtomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i’r Swyddogion ddarparu adroddiadau ar y rhesymau a roddwyd dros ganiatáu’r cais.

 

7.5  FPL/2019/51 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir yn lle storio agored ar gyfer cerrig sy’n gysylltiedig â prif ddefnydd  yr ymgymerwyr angladdau ar dir gyferbyn â Preswylfa, Y Fali.

 

PENDERFYNWYD ail-gadarnhau’r penderfyniad i ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad y swyddogion gydag amodau ychwanegol mewn perthynas â thirlunio’r safle a bod deunydd mandyllog yn cael ei ddefnyddio ar gyfer llif dŵr wyneb.

 

7.6 14C257 – Cais amlinellol ar gyfer codi annedd fforddiadwy ynghyd â manylion llawn am y fynedfa i gerbydau a’r system ddraenio gyda’r holl faterion eraill wedi eu cadw yn ôl ar dir ger Cefn Trefor, Trefor.

 

PENDERFYNWYD ail-gadarnhau’r penderfyniad i ganiatáu’r cais yn croes i argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig a bod cytundeb cyfreithiol A106 yn cael ei lofnodi mewn perthynas â’r meini prawf ‘cyswllt lleol’ y mae’r ymgeisydd yn cydymffurfio â nhw yn unol â’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 05/06/2019

Dyddiad y penderfyniad: 05/06/2019

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 05/06/2019 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Dogfennau Cefnogol: