Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
12.1 FPL/2019/40 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd siop golff (Dosbarth Defnydd A1) yn fwyty (Dosbarth Defnydd A3) ynghyd â gosod simnai allanol a ffliw echdynnu a chreu ardal decin y tu allan yng Nghlwb Golff Llangefni, Llangefni.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais a rhoi hawl i weithredu i’r Swyddogion wedi i’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus statudol ddod i ben.
12.2 FPL/2018/42 – Cais llawn ar gyfer codi 8 o anheddau pris marchnad a 2 annedd fforddiadwy, adeiladu mynedfa newydd i gerbydau a lôn newydd ynghyd â gwaith tirlunio meddal a chaled ar dir ger Stad Llain Delyn, Gwalchmai.
PENDERFYNWYD ymweld â’r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rhesymau a roddwyd.
12.3 25C121H – Cais llawn ar gyfer codi 4 annedd a mynedfa i gerbydau yn Safle Maryfore, Llanerchymedd.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog a gyda’r amodau sydd wedi’i cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig a bod cytundeb cyfreithiol A106 yn cael ei lofnodi mewn perthynas â’r ddarpariaeth tai fforddiadwy a’r cyfraniad addysg.
Dyddiad cyhoeddi: 05/06/2019
Dyddiad y penderfyniad: 05/06/2019
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 05/06/2019 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dogfennau Cefnogol: