Manylion y penderfyniad

Provision of the Waste Collection and Street Cleansing Service

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Cyflwynwyd er ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith, adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a'r Pennaeth Gwasanaeth Dros Dro (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo) ynghylch cyflwyno Gwasanaeth Casglu Gwastraff a Glanhau Strydoedd y Cyngor o fis Ebrill 2021 ymlaen.

 

Rhoddwyd gwybodaeth gefndirol i'r Pwyllgor Gwaith am y contract presennol sydd wedi cael ei ddarparu’n allanol gan Biffa Ltd. ers 2012 ac sy'n dod i ben ar 31 Mawrth, 2021. Er mwyn helpu i benderfynu a fydd y gwasanaeth ar ôl Mawrth, 2021 yn cael ei gyflwyno trwy ail-gaffael yn allanol neu drwy ddod â'r contract yn fewnol, comisiynodd y Cyngor WRAP Cymru (heb unrhyw gost i'r Awdurdod) i gynorthwyo yn y broses werthuso ac i ddarparu asesiad o oblygiadau ariannol darpariaeth fewnol o gymharu â chost parhau i allanoli. Cafodd yr adroddiad gan WRAP Cymru ei gyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith ac roedd yn manylu ar y ffactorau a'r risgiau ansoddol sy'n gysylltiedig â'r ddau opsiwn wedi'u rhannu'n feysydd penodol.

 

Amlinellodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 y prif faterion i'w hystyried mewn perthynas â mewnoli / allanoli a beth oedd y ddau yn ei olygu. Pe bai'r Pwyllgor Gwaith yn cymeradwyo parhau i allanoli'r contract a dechrau proses gaffael ffurfiol er mwyn penodi contractwr, sef yr opsiwn a argymhellir, yna mae opsiynau prisio mewn perthynas â darpariaeth gwasanaeth y gellir ystyried eu cynnwys yn y dogfennau gwybodaeth tendr; ymhelaethodd y Swyddog ar y rhain a thynnodd sylw at yr ystyriaethau ynghlwm wrth bob un. Rhestrwyd y rhain yn argymhelliad 3 yr adroddiad.

 

Trafododd y Pwyllgor Gwaith yr opsiynau o ran darparu gwasanaeth gyda'r Swyddogion ac wedi ystyried yr wybodaeth a ddarparwyd, roedd yn cytuno, yn seiliedig ar ystyriaethau cost a gwerth gorau, mai parhau i allanoli’r gwasanaeth yw'r opsiwn mwyaf buddiol i'r Cyngor gan gymryd i ystyriaeth hefyd farn y Pwyllgor Sgriwtini ar y mater hwn ac ar bwyntiau eraill a godwyd mewn trafodaeth adeiladol ar y mater yng nghyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio ar 13 Mehefin.

 

Cododd y Pwyllgor Gwaith nifer o gwestiynau ar y wybodaeth a gyflwynwyd a gofynnodd am eglurder hefyd ar hyd y contract gan nodi bod angen rhywfaint o hyblygrwydd. Ar ôl myfyrio ar y mater a'i drafod, ac ar ôl ystyried yr eglurhad a ddarparwyd gan Swyddogion a mewnbwn y Pwyllgor Sgriwtini, cytunodd y Pwyllgor Gwaith y dylai proses gaffael ffurfiol i benodi contractwr ar gyfer y contract rheoli gwastraff newydd ddechrau yn unol ag argymhellion 1 i 3 yr adroddiad ond gyda'r newidiadau / ychwanegiadau canlynol -

 

           Opsiwn ar gyfer ymestyn y contract - dylai'r contract redeg am gyfnod cychwynnol o 8 mlynedd gyda'r opsiwn i ymestyn y contract am hyd at uchafswm o 12 mlynedd (gan wneud cyfanswm posibl o 20 mlynedd) yn amodol ar adolygiad cynhwysfawr ar ôl 6 mlynedd.

           Pwerau i'w dirprwyo i'r Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo) - y pwerau hyn i’w dirprwyo yn unol ag argymhelliad 2 yr adroddiad mewn ymgynghoriad â'r Aelod Portffolio a,

           Opsiynau prisio i'w cynnwys yn y ddogfennaeth gwybodaeth tendro yn unol ag argymhelliad 3 yr adroddiad - dylai'r rhain hefyd gynnwys cais i fidwyr ddarparu prisiau tendro yn seiliedig ar dalu'r Cyflog Byw Cenedlaethol ac ar dalu'r Cyflog Byw Go Iawn.

 

 Penderfynwyd cymeradwyo argymhellion 1 i 3 yr adroddiad mewn perthynas â chychwyn proses gaffael ffurfiol (fel y’i disgrifir yn Atodiad 3) i benodi contractwr i ymgymryd â’r Contract Casglu Gwastraff a Glanhau Strydoedd o 5 Ebrill 2021, yn ddarostyngedig i welliannau a wnaed yn y cyfarfod mewn perthynas â’r canlynol

 

                       Opsiwn i ymestyn y contract – am gyfnod cychwynnol o 8 mlynedd gyda’r opsiwn o ymestyn y cyfnod am hyd at 12 mlynedd (gan wneud cyfanswm posib o 20 mlynedd) yn amodol ar gynnal adolygiad cynhwysfawr ar ôl 6 mlynedd.

                       Dirprwyo pwerau i’r Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo) fydd yn cael eu hymarfer mewn ymgynghoriad â’r Deilodd Portffolio, ac

                       Bod yr opsiynau prisio i’w cynnwys yn y dogfennau gwybodaeth tendr yn cynnwys, yn ychwanegol, cais i’r sawl sy’n gwneud bid i ddarparu prisiau tendr yn seiliedig ar dalu’r Cyflog Byw Cenedlaethol a’r Cyflog Byw Real.

Dyddiad cyhoeddi: 17/06/2019

Dyddiad y penderfyniad: 17/06/2019

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 17/06/2019 - Pwyllgor Gwaith

Dogfennau Cefnogol: