Manylion y penderfyniad

Welsh Church Act Fund

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

Penderfynwyd

 

           Cymeradwyo’r cynllun drafft fel sydd ynghlwm yn Atodiad B yr adroddiad a dirprwyo’r grym i’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a’r Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro mewn ymgynghoriad â’r Aelod Portffolio Cyllid i –

 

    Gwblhau’r trefniadau sy’n angenrheidiol i’r cynllun gael ei gymeradwyo ac i sefydlu’r corff elusennol.

    Gwneud unrhyw newidiadau sy’n ofynnol i’r cynllun drafft gan y Comisiwn Elusennau neu’r cynghorwyr cyfreithiol er mwyn cwblhau’r broses, ar yr amod nad yw’r newidiadau yn gwrthdaro ag egwyddorion y cynllun drafft. Os bydd unrhyw newid gofynnol yn newid yr egwyddorion a adlewyrchir yn y cynllun drafft, bydd angen cymeradwyaeth bellach gan y Pwyllgor Gwaith cyn i’r newidiadau i’r cynllun gael eu mabwysiadu.

 

           Gofyn i’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 geisio cyngor annibynnol ar sut i gael yr elw mwyaf posib ar fuddsoddiadau o’r tir a’r arian sy’n cael eu dal yn y Gronfa.

Dyddiad cyhoeddi: 15/07/2019

Dyddiad y penderfyniad: 15/07/2019

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 15/07/2019 - Pwyllgor Gwaith

Dogfennau Cefnogol: