Manylion y penderfyniad

Supported Living (Learning Disabilities) Commissioning Options

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Cyflwynwyd i’w ystyried, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro / Pennaeth Gwasanaethau Oedolion, yn gofyn am ganiatâd y Pwyllgor Gwaith i ail-dendro am y Gwasaaneth Byw â Chymorth (Anableddau Dysgu) ar Ynys Môn.

 

Cynghorwyd y Pwyllgor Gwaith fod yr argymhelliad yn cynnwys ail fodelu’r ddarpariaeth bresennol ac yn hytrach na chael gwahanol ddarparwyr yn gwasanaethu’r Ynys gyfan, byddai’r un darparwr yn gwasanaethu ardal benodol gyda’r Ynys yn cael ei rhannu’n dair ardal fel a ddangosir ar y mapiau sydd ynghlwm wrth yr adroddiad. Cafodd y rhesymau a’r rhesymeg dros dendr cystadleuol eu hamlinellu gyda’r farn y bydd yr ymarfer ail dendro yn darparu cyfle i gaffael gwasanethau sy’n darparu’r gwerth gorau tra hefyd yn cynnig dewis a rheolaeth I’r unigolion a gefnogir.

 

Adroddodd y Cynghorydd G.O.Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio yn ôl o gyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf a oedd wedi ystyried y mater; mae’r Pwyllgor wedi gofyn am gadarnhad a sicrwydd ar nifer o faterion gan gynwnys ymgysylltiad â rhanddeiliaid a chefnogaeth drwy’r broses dendro ac yn dilyn hynny, effeithlonrwydd a gwerth am arian, ac adroddwyd y cafwyd argymhelliad bod y ddarpariaeth gwasanaeth presennol ar gyfer Byw â Chymorth (Anableddau Dysgu) yn cael ei ail dendro. 

 

Trafododd y Pwyllgor Gwaith y cais gan ystyried y pwyntiau a godwyd gan Sgriwtini a chafwyd sicrwydd gan y Pennaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Dros dro / Pennaeth Gwasanaethau Oedolion y byddai Aelodau yn cael eu hysbysu am y cynnydd a/neu unrhyw ddatblygiadau drwy gydol y broses.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cynnig i ail-dendro’r ddarpariaeth gyfredol ar gyfer y gwasanaeth Byw â Chymorth (Anableddau Dysgu).

Dyddiad cyhoeddi: 15/07/2019

Dyddiad y penderfyniad: 15/07/2019

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 15/07/2019 - Pwyllgor Gwaith

Dogfennau Cefnogol: