Manylion y penderfyniad

Council Housing - Development of 10 or more units

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai yn gofyn am ganiatâd y Pwyllgor Gwaith i symud ymlaen i ddatblygu cynllun tai newydd o 10 o unedau ar safle Marquis yn Rhosybol ar gyfer ystyriaeth.  

 

Cynghorwyd y Pwyllgor Gwaith fod cyfle wedi codi i’r Cyngor ddatblygu tai Cyngor newydd ar safle Marquis yn Rhosybol sydd eisoes wedi ei adnabod fel safle posibl ar gyfer tai ac sydd wedi ei gynnwys yn y rhaglen datblygu Tai Cymdeithasol ers 2017. Cynhaliwyd Arolwg Angen am Dai drwy’r gwasanaeth Galluogi Tai Gwledig mewn cydweithrediad â’r Cyngor Cymuned yn ystod yr hydref 2018 a chafodd yr angen am 10 o gartrefi fforddiadwy ychwangeol ei adnabod. Fel rhan o’r arolwg, cafodd holiadur ei gylchreeg i drigolion lleol a chynhaliwyd diwrnod agored ym mis Tachwedd, 2018 i drafod tai yn y pentref. Roedd Cefnogaeth glir i ddatblygu’r safle Marquis. Bydd y datblygiad yn cynnwys cymysgedd o unedau tai ac yn cael ei ariannu’n rhannol drwy ddyraniad grant tai fforddiadwy Llywodraeth Cymru ac yn rhannol drwy’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae llawer iawn o waith paratoi wedi’i ymgymryd ag ef gyda’r nod (yn amodol ar ganiatâd y Pwllgor Gwaith) o ddechrau gweithio ar y datblygiad yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol.     

 

Penderfynwyd cymeradwyo symud ymlaen i ddatblygu cynllun tai cyngor newydd o 10 uned ar safle Marquis, Rhosybol.

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 15/07/2019

Dyddiad y penderfyniad: 15/07/2019

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 15/07/2019 - Pwyllgor Gwaith

Dogfennau Cefnogol: