Manylion y penderfyniad

Anglesey Further Education Trust Update

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a oedd yn darparu diweddariad ar y cynnydd a wnaed o ran ailstrwythuro Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith. 

 

Yn dilyn cyflwyno cyfrifon Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn i’r Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod 29 Ebrill, 2019, gofynnodd y Pwyllgor Gwaith am i strwythur yr Ymddiriedolaeth gael ei adolygu gyda’r nod o sicrhau bod mwy o gyllid yn cael ei ddefnyddio er mwyn bodloni dibenion elusennol yr Ymddiriedolaeth h.y. cynorthwyo disgyblion presennol a chyn ddisgyblion pum ysgol Uwchradd y Cyngor i gynnal eu haddysg neu i ymgymryd â chymwysterau galwedigaethol neu broffesiynol. Yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Gwaith, cynhaliwyd trafodaethau â Phenaethiaid y 5 ysgol uwchradd er mwyn adnabod dulliau posibl ar gyfer defnyddio arian yr Ymddiriedolaeth er mwyn sicrhau budd i ddisgyblion cyfredol a chyn ddisgyblion a’r ffordd orau o ddyrannu’r cyllid i’r 5 ysgol. Mynegwyd mai’r ysgolion eu hunain sydd yn y sefyllfa orau i adnabod y disgyblion a allai elwa. Mae’r cynigion perthnasol wedi eu nodi yn yr adroddiad. Cafodd cyfreithiwr allanol hefyd ei gyflogi i gynghori ar opsiynau posibl mewn perthynas ag adolygu a diweddaru’r cynlluniau sy’n llywodraethu’r Ymddiriedolaeth Addysg Bellach ac i wella’r defnydd o’r Gronfa. Tra bo angen diweddaru’r dogfennau llywodraethiant, rhywbeth a fydd yn golygu gwaith gwaith pellach a chytundeb y Comisiwn Elusennau, mae sgôp i ddefnyddio’r gronfa mewn ffordd wahanol o fewn cwmpas y cynlluniau presennol.      

 

Mae Adroddiad Blynyddol a chyfrifon 2018/19 (fel y’u cyflwynwyd o dan eitem 7 ar yr agenda), yn dangos bod gwerth y Gronfa gyffredinol yn £3.237m ac yn cynnwys 2 gronfa benodol – y Gronfa Waddol (£2.78m) sy’n cynnwys yn bennaf arian o eiddo buddsoddiad gyda’r gweddill yn fuddsoddiadau masnachu, dyledwyr a chredydwyr ac arian parod yn y banc sy’n golygu ei fod yn anaddas ar gyfer ei ddosbarthu i fodloni amcanion elusennol yr Ymddiriedolaeth; a’r Gronfa Gyfyngedig (£455k) yn cynnwys buddsoddiadau masnachol ac arian parod yn y banc y gellir ei ddosbarthu er mwyn cwrdd ag amcanion elusennol yr Ymddiriedolaeth. Mae’r adroddiad yn nodi’r modd y bydd yr arian sy’n weddill sy’n cael ei greu gan yr Ymddiriedolaeth bob blwyddyn yn cael ei ddosbarthu rhwng Elusen David Hughes ar gyfer y tlodion (elusen ar wahân nad yw o dan reolaeth y Cyngor) a dwy is-gronfa o dan y Gronfa Gyfyngedig sydd er lles disgyblion cyfredol a chyn-ddisgyblion pum ysgol uwchradd yr Ynys. Gan nad yw’r Pwyllgor Gwaith ar hyn o bryd yn gosod cyllideb, nid yw’n bosib penderfynu ar yr arian dros ben y bydd y Gronfa efallai yn ei wneud bob blwyddyn a faint fydd ar gael ar gyfer pob cronfa ar ôl gwario ar gynnal a chadw eiddo ar y stad. Mae’r adroddiad yn cynnig cyllideb benodol ar gyfer gwaith trwsio a chynnal a chadw a fydd yn cael ei chynyddu bob blwyddyn yn unol â’r cynnydd yn chwyddiant y rhenti a dderbynnir.    

 

Cynghorwyd y Pwyllgor Gwaith bod cyllid sylweddol ar gael i ddarparu cymorth i ddisgyblion cyfredol a chyn-ddisgyblion a bod modd i’r Ymddiriedolaeth greu digon o arian dros ben er mwyn cynnal lefel o gymorth ar gyfer y dyfodol. Mae angen i eiriad y Cynllun gael ei ddiweddaru er mwyn cadarnhau’r ddogfen ond gellir gwneud hyn heb orfod gwneud newidiadau sylweddol i ddibenion elusennol yr Ymddiriedolaeth. Mae’r pum Ysgol Uwchradd yn fodlon gweinyddu’r gwaith o ddyfarnu’r cyllid i ddisgyblion a chyn-ddisgyblion ar ran yr Ymddiriedolaeth ac mae modd i’r cynlluniau grant arfaethedig gael cyflawni o fewn geiriad presennol y Cynlluniau.   

 

Penderfynwyd  -

 

           Cymeradwyo’r cynigion canlynol i ddefnyddio cyllid Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn –

 

   Dyrannu £55,000 i bob ysgol uwchradd er mwyn cyllido’r gost o Hyfforddwyr Dysgu ym mhob ysgol. Bydd yn fater i bob ysgol unigol benderfynu dros ba gyfnod o amser y defnyddir y cyllid.

   Bod £8,000 yn cael ei ddyrannu yn y lle cyntaf i bob ysgol uwchradd er mwyn galluogi ysgolion i ddarparu grantiau sy’n cynorthwyo myfyrwyr sy’n ddifreintiedig yn ariannol i gael lle mewn coleg/prifysgol a/neu er mwyn helpu i brynu llyfrau ac offer angenrheidiol er mwyn mynychu’r cyrsiau yn y flwyddyn gyntaf. Mater i bob ysgol unigol fydd asesu pob cais a dyfarnu grantiau yn seiliedig ar eu meini prawf aseseu.

   Y Gwasanaeth Addysg i ofyn i Goleg Cymraeg Cymru weinyddu’r ysgoloriaethau i fyfyrwyr o gefndiroedd ariannol difreintiedig fel y gallant ddilyn cyrsiau prifysgol neu goleg drwy gyfrwng y Gymraeg.

   Dirprwyo’r awdurdod i’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swddog Adran 151 benderfynu faint o gyllid sy’n cael ei ddyrannu i’r 3 cynllun yn y dyfodol. Bydd y swm a ddyrennir yn ddibynnol ar y gwarged a wneir  gan y Gronfa.

 

           Bod y gyllideb ar gyfer gwaith trwsio a chynnal a chadw yn caeI ei gosod ar £50,000 ar gyfer 2020/21 a bod y swm hwn yn cael ei chwyddo bob blwyddyn yn unol â’r cynnydd chwyddiant o ran y rhenti a dderbynir. Rhaid i unrhyw swm sy’n uwch na’r gyllideb hon gael ei chymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith.

           Dirprwyo’r grym i’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog Adran 151 a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/ Swyddog Monitro gwblhau’r gwaith angenrheidiol er mwyn diweddaru geiriad y cynllun. Os yw’r Comisiwn Elusennau o’r farn bod y newidiadau y bwriedir eu gwneud yn newid sylweddol i weithrediad y gronfa, bydd y mater yn cael ei gyfeirio’n ôl i’r Pwyllgor Gwaith am drafodaeth bellach ac am gadarnhad.

Dyddiad cyhoeddi: 28/10/2019

Dyddiad y penderfyniad: 28/10/2019

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 28/10/2019 - Pwyllgor Gwaith

Dogfennau Cefnogol: