Manylion y penderfyniad

Applications Arising

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

7.1       OP/2019/5 - Cais amlinellol ar gyfer dymchwel yr adeiladau presennol ynghyd â chodi 52 annedd fforddiadwy gyda datblygiadau cysylltiedig ynghyd â manylion llawn am y fynedfa i gerbydau ar dir ger Huws Grey, Stryd y Bont, Llangefni

 

Penderfynwyd gohirio’r drafodaeth ar y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac am y rheswm a roddwyd.

 

7.2       FPL/2019/226 - Cais llawn ar gyfer codi 3 chaban gwyliau, creu trac mynediad newydd, diwygio mynedfa bresennol ynghyd â gosod gwaith paced ar gyfer trin carthffosiaeth ar dir yn Fronwen, Niwbwrch.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd tybir ei fod yn dderbyniol dan ddarpariaethau Polisi TWR3. (Ni wnaeth y Cynghorydd Bryan Owen bleidleisio ar y mater).

 

Yn unol â’r gofynion yng Nghyfansoddiad y Cyngor, gohiriwyd y cais yn awtomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn i’r Swyddogion gael cyfle i baratoi adroddiad ar y rheswm a roddwyd dros gymeradwyo’r cais.

Dyddiad cyhoeddi: 06/11/2019

Dyddiad y penderfyniad: 06/11/2019

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 06/11/2019 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Dogfennau Cefnogol: