Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfynwyd –
• Nodi’r sefyllfa a amlinellir yn Atodiadau A a B yr adroddiad yng nghyswllt perfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a’r alldro disgwyliedig ar gyfer 2019/20.
• Nodi’r crynodeb o’r cyllidebau wrth gefn ar gyfer 2019/20 fel y manylir arnynt yn Atodiad C yr adroddiad.
• Nodi’r sefyllfa mewn perthynas â’r rhaglenni buddsoddi i arbed yn Atodiad CH.
• Nodi’r sefyllfa o ran arbedion effeithlonrwydd 2019/20 yn Atodiad D.
• Nodi’r modd y caiff costau staff asiantaeth ac ymgynghorwyr eu monitro yn 2019/20 yn Atodiadau DD, E ac F.
• Cymeradwyo’r defnydd o Gronfa Wrth Gefn Pensiynau Ysgolion i gyllido’r tâl gwyliau sy’n ddyledus i staff llanw ysgolion ac sy’n dyddio’n ôl i Ragfyr, 2015 ar gost amcangyfrifiedig o £94k ar hyn o bryd ynghyd ag argostau, sef cyfanswm oddeutu £110k yn fras.
Dyddiad cyhoeddi: 25/11/2019
Dyddiad y penderfyniad: 25/11/2019
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 25/11/2019 - Pwyllgor Gwaith
Dogfennau Cefnogol: