Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfynwyd –
• Nodi cyfrifiad sylfaen y Dreth Gyngor gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 fydd yn cael ei ddefnyddio gan Llywodraeth Cymru ar gyfer cyfrifo’r Grant Cynnal Refeniw i Gyngor Sir Ynys Môn am y flwyddyn 2020/21, sef 30,927.17. (Rhan E6 o Atodiad A i’r adroddiad)
• Cymeradwyo’r cyfrifiad at ddiben pennu Sylfaen y Dreth Gyngor gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 am y cyfan o’r ardal ac am rannau ohoni dros y flwyddyn 2020/21 (Rhan E5 o Atodiad A i’r adroddiad)
• Yn unol â Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor (Cymru) 1995 (SI19956/2561) fel y cawsant eu diwygio gan SI1999/2935 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor) a’r Dreth Gyngor (Dosbarthiadau Rhagnodedig o Anheddau) (Cymru) (Diwygiad) 2004 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor (Cymru) (Diwygiad) 2016, y cyfansymiau mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi eu cyfrif fel Sylfaen y Dreth am 2020/21 fydd 31,532.53, ac fel a nodir yn nhabl 3 yr adroddiad am y rhannau hynny o’r ardal a restrir ynddo.
Dyddiad cyhoeddi: 25/11/2019
Dyddiad y penderfyniad: 25/11/2019
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 25/11/2019 - Pwyllgor Gwaith
Dogfennau Cefnogol: