Manylion y penderfyniad

Applications Arising

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

7.1      OP/2019/5 - Cais amlinellol ar gyfer dymchwel yr adeiladau presennol ynghyd â chodi 52 annedd fforddiadwy gyda datblygiadau cysylltiedig ynghyd â manylion llawn am y fynedfa i gerbydau ar dir ger Huws Grey, Stryd y Bont, Llangefni

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac i ddirprwyo i Swyddogion yr hawl i ryddhau’r penderfyniad unwaith bod mecanwaith (cytundeb cyfreithiol/taliadau/cyfuniad o’r ddau) mewn lle i sicrhau y bydd modd cael y taliadau sy’n ofynnol dan ymrwymiad cynllunio cyn rhyddhau’r caniatâd cynllunio.

 

7.2      FPL/2019/226 - Cais llawn ar gyfer codi 3 chaban gwyliau, creu trac mynediad newydd, diwygio mynedfa bresennol ynghyd â gosod gwaith paced ar gyfer trin carthffosiaeth ar dir yn Fronwen, Niwbwrch.

 

          PENDERFYNWYD ail-gadarnhau’r penderfyniad i gymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.

 

Dyddiad cyhoeddi: 04/12/2019

Dyddiad y penderfyniad: 04/12/2019

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 04/12/2019 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Dogfennau Cefnogol: