Manylion y penderfyniad

Waste Contract

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a’r Pennaeth Priffyrdd, Eiddo a Gwastraff mewn perthynas â'r Contract Gwasanaeth Casglu Gwastraff a Glanhau. ‘Roedd yr adroddiad yn gofyn i’r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo  opsiynau gwasanaeth at ddibenion cyflwyno tendr terfynol.

 

Atgrynhodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 amserlen y broses gaffael o dan ddull tendro tri Cham y Broses Deialog Gystadleuol, sef y dull a fabwysiadwyd ar gyfer y broses dendro am y contract Gwasanaeth Casglu Gwastraff a Glanhau, a chadarnhaodd bod Cam 1 wedi ei gwblhau, sef cyflwyno cynigion drafft cychwynnol wedi'u prisio yn seiliedig ar yr opsiynau gwasanaeth cychwynnol a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 17 Mehefin, 2019. Bellach mae gofyn i’r Pwyllgor Gwaith ddod i benderfyniad ynghylch yr opsiynau gwasanaeth y mae'n dymuno eu hystyried yn ystod Cam 2 (proses ddeialog ffurfiol) a Cham 3 (cyflwyno tendrau terfynol) er mwyn cael gwared ar opsiynau diangen a rhoi eglurder llwyr i gynigwyr ar gyfluniad y gwasanaeth y dylent fod yn tendro amdano yn eu cynigion terfynol. Ar ôl gwerthuso’r tendrau terfynol hynny bydd y contract yn cael ei ddyfarnu a bydd yn dod i rym ar 1 Ebrill, 2021.

 

Cyfeiriodd y Swyddog at yr ystod gychwynnol o gostau, arbedion a risgiau posib a nodwyd yng Ngham 1 mewn perthynas â'r gwahanol gyfluniadau gwasanaeth ar gyfer y Contract Casglu Gwastraff a Glanhau newydd fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad. Yn seiliedig ar yr atborth o Gam 1, mae Swyddogion wedi gwneud argymhellion ynghylch pa gyfluniad gwasanaeth y dylid ei ystyried ar gyfer Cam 2 a Cham 3 y broses gaffael - ymhelaethodd y Swyddog ar yr opsiynau gwasanaeth hynny a'r rheswm dros y bwriad i’w cynnwys.

 

Adroddodd y Cynghorydd G O Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio o gyfarfod y Pwyllgor ar 21 Ionawr, 2020 lle craffwyd ar yr adroddiad a chadarnhaodd bod y Pwyllgor, yn dilyn trafodaeth ac ar ôl ystyried yr eglurhad a ddarparwyd gan yr Aelod Portffolio a’r Swyddog yn y cyfarfod, wedi argymell mabwysiadu'r opsiynau gwasanaeth a gynigiwyd yn yr adroddiad.

 

Rhoddodd y Pwyllgor Gwaith sylw i’r adroddiad a cheisiodd eglurder a sicrwydd ar sawl pwynt yn codi o ganfyddiadau Cam 1 y broses. Ar ôl trafod y mater, ac yng ngoleuni cyngor a gafwyd gan Swyddogion a barn y Pwyllgor Sgriwtini, cytunodd y Pwyllgor Gwaith i gefnogi‘r opsiynau gwasanaeth hynny a argymhellwyd yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd cymeradwyo argymhellion yr adroddiad ynglyn â’r cyfluniad gwasanaeth ar gyfer y tendrau terfynol am y Gontract Casglu Gwastraff a Glanhau  ac awdurdodi’r Swyddogion perthnasol i weithredu yn unol â hynny.

Dyddiad cyhoeddi: 27/01/2020

Dyddiad y penderfyniad: 27/01/2020

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 27/01/2020 - Pwyllgor Gwaith

Dogfennau Cefnogol: