Manylion y penderfyniad

Gweddill y Ceisiadau

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

12.1 LBC/2019/45 - Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer gwaith i giât yr eglwys ym Mynwent Isaf St Cybi's Lower Church Yard, Ffordd Victoria Road, Caergybi.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.2 OP/2019/16 - Cais amlinellol ar gyfer dymchwel annedd presennol ynghyd â chodi 4 annedd yn ei le (un fforddiadwy) sydd yn cynnwys manylion llawn am y fynedfa a'r gosodiad yn Beecroft, Ffordd yr Orsaf/Station Road, Y Fali.

 

Adroddwyd fod y cais hwn wedi ei dynnu’n ôl.

 

12.3 FPL/2019/253 - Cais llawn ar gyfer trosi adeiladau allanol i ddwy uned wyliau sydd yn cynnwys addasu ac ehangu ynghyd â gosod pecyn trin carthffosiaeth yn Penfor, Porth Swtan.

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle ar gais yr Aelod Lleol ac yn unol â’r rhesymau a roddwyd.

 

12.4 FPL/2019/275 - Cais llawn ar gyfer codi 4 annedd newydd ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau ar dir ger 14 Maes William Williams, Amlwch.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ac amodau ychwanegol mewn perthynas â chynnal a chadw ffordd y stad yn y dyfodol a’r ddarpariaeth o dai fforddiadwy.

 

12.5 FPL/2019/278 Cais llawn ar gyfer dymchwel adeiladau ysgol presennol a chodi 8 annedd ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau ar dir yn Ysgol Gynradd Llanfachraeth, Llanfachraeth, Caergybi

 

PENDERFYNWYD:-

 

·      cymeradwyo’r cais a rhoi’r pŵer i Swyddogion weithredu ar ôl i’r cyfnod ymgynghori statudol ddod i ben;

·      bod amodau ychwanegol yn cael eu cysylltu i’r caniatâd o’r cais o ran y dylid sicrhau arolwg ffotograffig o’r adeilad a chyflwr y tir wedi’i halogi.

 

12.6 FPL/2019/337 - Cais ôl-weithredol ar gyfer creu lôn mynediad yn Stad Diwydiannol Mona, Gwalchmai.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais a rhoi’r grym i Swyddogion weithredu ar ôl i’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus statudol ddod i ben.

 

Dyddiad cyhoeddi: 05/02/2020

Dyddiad y penderfyniad: 05/02/2020

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 05/02/2020 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Dogfennau Cefnogol: