Manylion y penderfyniad

Compulsory Purchase Order Beaumaris Sports and Social Club

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Gwasanaethau Tai mewn perthynas â'r bwriad i gyflwyno gorchymyn prynu gorfodol ar gyfer hen Glwb Chwaraeon a Chymdeithasol Biwmares, Steeple Lane, Biwmares, i gael ei ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cynghorwyd y Pwyllgor Gwaith mai diben y Cyngor wrth geisio caffael hen adeilad y Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol yw ail-ddatblygu'r safle i ddarparu tai fforddiadwy i ateb y galw sydd heb ei ddiwallu ym Miwmares. Mae'r adeilad wedi bod yn wag fel clwb cymdeithasol ers blynyddoedd ac mae mewn cyflwr gwael. Mae'r ailddatblygiad arfaethedig yn cynnig defnydd arall i'r safle. Bydd y defnydd hwnnw’n cael effaith gadarnhaol amlwg ar y safle a'r ardal, gan ddiogelu a gwella cymeriad yr Ardal Gadwraeth a dilyn polisi lleol a chenedlaethol. Mae'r adroddiad yn manylu ar y materion i'w hystyried mewn perthynas â'r cam gweithredu arfaethedig ac yn nodi'r cyfiawnhad dros orchymyn prynu gorfodol.

 

Penderfynwyd -

 

           Awdurdodi pryniant gorfodol  yr hen Glwb Chwaraeon a Chymdeithasol, Steeple Lane, Biwmares fel y nodir ef ar y cynllun yn Atodiad 1 yr adroddiad a hynny o dan Adran 17 o Ddeddf Tai 1985 (Caffael Tir i Ddibenion Tai) er mwyn darparu cynllun tai fforddiadwy.

           Dirprwyo awdurdod i’r Pennaeth Gwasanaethau Tai gymryd pob cam sy’n angenrheidiol i sicrhau gorchymyn prynu gorfodol a breinio teitl yn y Cyngor.

           Dirprwyo awdurdod i’r Pennaeth Gwasanaethau Tai mewn ymgynghoriad â’r Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol, i setlo’r holl iawndal sy’n daladwy o ganlyniad i’r gorchymyn.

           Awdurdodi datblygu tai fforddiadwy ar y safle ar ôl caffael y safle yn amodol ar sicrhau’r caniatad cynllunio priodol ac ar yr amod hefyd fod y prosiect yn hyfyw.

 

Dyddiad cyhoeddi: 23/03/2020

Dyddiad y penderfyniad: 23/03/2020

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 23/03/2020 - Pwyllgor Gwaith

Dogfennau Cefnogol: