Manylion y penderfyniad

Delegation to the Chief Planning Officer of the Committee's Powers to make decisions during the period of the Covid-19 Pandemic

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y byddai cyfarfodydd o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn cael eu cynnal yn rhithiol, bob mis, cyn gynted a bo hynny’n ymarferol bosibl, fodd bynnag, yn y cyfamser:-

 

·      I ddirprwy i Brif Swyddog Cynllunio’r Cyngor yr hawl i wneud yr holl benderfyniadau sydd wedi eu neilltuo i’r Pwyllgor o dan Gyfansoddiad y Cyngor, bo hyn unai o dan baragraffau 3.4.3.1 i 3.4.3.16 (yn gynwysedig) neu yn rhywle arall;

 

·      Bod y ddirprwyaeth i aros mewn grym tan bod y cyfyngiadau ar gynnal cyfarfodydd cyhoeddus yn parhau mewn lle ond ei fod yn cael ei adolygu bob mis gan y Prif Swyddog Cynllunio mewn ymgynghoriad ag Arweinyddion y Grwpiau (neu eu dirprwyon) ag uwch swyddogion er mwyn mesur ei effeithiolrwydd;

 

·      Ar gyfer y ceisiadau rheini sydd eisoes wedi eu galw i mewn i’r Pwyllgor gan aelodau lleol, ni wneir penderfyniad arnynt o dan y ddirprwyiaeth yma hyd nes bod yr aelodau lleol yna wedi cael cyfle rhesymol pellach i wneud sylwadau penodol mewn ysgrifen ar y ceisiadau hynny cyn dyddiad penodol.  Bydd rhaid i’r Prif Swyddog Cynllunio gymeryd ystyriaeth priodol o’r sylwadau hynny cyn ymarfer ei hawliau dirprwyiedig ar y ceisiadau hynny;

 

·      Yn lle siarad cyhoeddus yn y Pwyllgor bydd y Prif Swyddog Cynllunio yn hysbysu’r aelodau o’r cyhoedd sydd wedi gwneud sylwadau ar gais o’i fwriad i’w ddyfarnu o dan yr hawl hw.  Bydd yn gwahodd yr aelodau hynny o’r cyhoedd i wneud sylwadau ysgrifenedig pellach erbyn dyddiad penodol ag i gymeryd ystyriaeth priodol o’r sylwadau ysgrifenedig pellach yna cyn iddo ymarfer ei hawl dirprwyiedig ar y cais yna;

 

·      Ble mae gan y Prif Swyddog Cynllunio yr hawl i ddyfarnu cais o dan y dirprwyiaeth yma fe all, fodd bynnag ag am unrhyw reswm, ddewis peidio ag ymarfer yr hawl yna ac mewn achosion o’r fath bydd rhaid dyfarnu’r cais gan y Pwyllgor.  Bydd y Prif Swyddog Cynllunio yn cymeryd i ystyriaeth barn y rheini y cyfeirir atynt ym mharagraff 2 uchod tra’n dod i benderfyniad o dan y paragraff hwn;

 

·      Bod y ddirprwyaeth yn dirymu yn awtomatig unwaith mae gwys yn cael ei gyhoeddi i’r Pwyllgor nesaf gyfarfod drwy ymgynnull yn Siambr y Cyngor, ond, os yw cyfarfod o’r fath yn cael ei ohirio neu’i ddileu am ba bynnag reswm yna yr adfywir y ddirprwyaeth yma a’i weithredu arno gan y Prif Swyddog Cynllunio hyd nes y bydd cyfarfod o’r fath yn cael ei gynnal;

 

·      Bod Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor yn cael eu hysbysu mewn modd amserol o unrhyw benderfyniadau a wneir o dan y ddirprwyaeth yma;

 

·      Bod sesiwn hyfforddiant i’w drefnu cyn y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor yn bersonol yn y Siambr er mwyn i aelodau a swyddogion gael ail-ymgyfarwyddo eu hunain efo trefn arferol y Pwyllgor a’r gofynion perthnasol.

Dyddiad cyhoeddi: 20/05/2020

Dyddiad y penderfyniad: 20/05/2020

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 20/05/2020 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Dogfennau Cefnogol: