Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfynwyd –
· Nodi cynnydd Cam Cynigydd a Ffefrir y Weithdrefn Deialog Cystadleuol o dan Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 fel yr amlinellir yn yr adroddiad.
· Cymeradwyo cyflawni, cyflenwi a pherfformio’r Cytundeb Partneriaeth Strategol gyda Chwmni Partneriaeth Addysg Cymru yn Hydref 2020 i hwyluso cyflawni ystod o wasanaethau seilwaith ynghyd â chyflawni cyfleusterau addysg a chymunedol.
· Cymeradwyo’r Cytundeb Partneriaeth Strategol a grynhowyd yn Atodiad 2 o’r adroddiad er mwyn gweithredu argymheliad 2 uchod, yn amodol ar argymhelliad 4 isod -
· Rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro –
· I gymeradwyo telerau terfynol y Cytundeb Partneriaeth Strategol a gymeradwywyd yma a all fod yn anghenrheidiol am resymau sy’n cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i gwblhau unrhyw faterion sydd heb eu penderfynu, a
· Chymeradwyo unrhyw weithredoedd a dogfennau pellach sy’n ategol i’r Cytundeb Strategol yma.
· Nodi y caiff Cytundeb Partneriaeth Strategol ei gyflawni fel gweithred a’i ardystio yn unol ag Erthygl 14.5 y Cyfansoddiad.
· Cymeradwyo penodi y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn “Gynrychiolydd y Cyfranogwr” i eistedd ar y Bwrdd Partneriaeth Strategol (BPS).
· Nodi wrth gytuno i’r Cytundeb Partneriaeth Strategol nad oes gofyn iddo benderfynu bwrw ymlaen ag unrhyw brosiect penodol, ac nad oes unrhyw beth o fewn y SPA sy’n ymrwymo’r Cyngor i wneud ymrwymiad o’r fath. Bydd unrhyw benderfyniad i fwrw ymlaen â phrosiect penodol yn fater i’r Pwyllgor Gwaith benderfynu arno yn y dyfodol.
Dyddiad cyhoeddi: 15/06/2020
Dyddiad y penderfyniad: 15/06/2020
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 15/06/2020 - Pwyllgor Gwaith
Dogfennau Cefnogol: