Manylion y penderfyniad

Gweddill y Ceisiadau

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

12.1      FPL/2019/217 – Cais llawn ar gyfer codi 17 o anheddau fforddiadwy, adeiladu dwy fynedfa newydd ar gyfer cerbydau a 3 mynedfa amaethyddol newydd, gosod gorsaf bwmpio ynghyd â gwaith tirlunio meddal a chaled ar dir ger Stad Craig y Don a Cherry Tree Close, Benllech.

 

PENDERFYNWYD gohirio gwneud penderfyniad ar y cais am y rhesymau a nodwyd.

 

12.2      DEM/2020/4 – Cais i bennu os oes angen caniatâd blaenorol ar gyfer dymchwel y cyn ysgol yn Ysgol Gynradd Niwbwrch, Niwbwrch.

 

PENDERFYNWYD caniatau’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig ac yn amodol ar dderbyn y wybodaeth ecolegol berthnasol.

 

12.3      47C151B –  Cais llawn ar gyfer codi chwech o lifoleuadau 5 medr o uchder i'r 'manege' yn Ty'n Ffordd, Elim

 

PENDERFYNWD gwrthod y cais yn groes i argymhellion y Swyddog oherwydd yr effeithiau ar amwynderau trigolion lleol a’r effaith andwyol ar yr awyr dywyll.

 

(Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, gohiriwyd y cais yn awtomatig tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad mewn perthynas â’r rhesymau a roddwyd am ganiatau’r cais).

 

12.4      FPL/2020/92 – Cais llawn ar gyfer creu 2 lle parcio yn 3 Bronallt, Ffordd Cambria, Porthaethwy.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle ar gais yr Aelod Lleol.

 

12.5      FPL/2020/45 – Cais llawn am gynyddu nifer y carafanau teithiol (23 yn ychwanegol) ar y safle o 15 i 38 yn Talli Ho, Prys Iorwerth Uchaf, Bethel, Bodorgan.

 

PENDERFYNWD gwrthod y cais yn groes i argymhellion y Swyddog oherwydd y gorddatblygiad o ran safleoedd carafanau yn yr ardal a gan ei fod yn groes i egwyddorion datblygiad cynaliadwy.

 

(Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, gohiriwyd y cais yn awtomatig tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad mewn perthynas â’r rhesymau a roddwyd am ganiatau’r cais).

 

 

12.6      HHP/2020/168 – Cais llawn ar gyfer dymchel yr adeilad allanol ynghyd a chodi anecs yn Tyn Lôn, Llaneilian.

 

PENDERFYNWYD caniatau’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau a restrir o fewn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.7      MAO/2020/16 – Mân newidiadau i gynllun sydd wedi ei ganiatáu yn flaenorol o dan caniatád cynllunio 34C304K/1/EIA/ECON er mwyn galleuo cychwyn gwaith ar blot 2 ar dir Coleg Menai, Llangefni

 

PENDERFYNWYD caniatau’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau a restrir o fewn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.8      FPL/2020/105 – Cais llawn ar gyfer creu man parcio newydd yn Ffordd Tudur, Caergybi.

 

PENDERFYNWYD caniatau’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau a restrir o fewn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

Dyddiad cyhoeddi: 07/10/2020

Dyddiad y penderfyniad: 07/10/2020

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 07/10/2020 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Dogfennau Cefnogol: