Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfynwyd –
· Nodi cyfrifiad Sylfaen y Dreth Gyngor gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151, fydd yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cyfrifo’r Grant Cynnal Refeniw i Gyngor Sir Ynys Môn am y flwyddyn ariannol 2021/22, sef 30,880.22 (Rhan E6 o Atodiad A yn yr adroddiad).
· Cymeradwyo’r cyfrifiad at ddiben pennu Sylfaen y Dreth Gyngor gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 am y cyfan o'r ardal ac am rannau ohoni am y flwyddyn 2021/22 (Rhan E5 o Atodiad A yn yr adroddiad).
· Yn unol â Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor) (Cymru) 1995 (SI19956/2561) fel y cawsant eu diwygio gan SI1999/2935 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor) a’r Dreth Gyngor (Dosbarthiadau Rhagnodedig o Anheddau) (Cymru) (Diwygiad) 2004 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor) (Cymru) (Diwygiad) 2016, y cyfansymiau y mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi eu cyfrifo fel Sylfaen y Dreth am 2021/22 fydd 31,548.20 ac fel y nodir yn nhabl 3 am y rhannau hynny o’r ardal a restrir ynddo.
Dyddiad cyhoeddi: 30/11/2020
Dyddiad y penderfyniad: 30/11/2020
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 30/11/2020 - Pwyllgor Gwaith
Dogfennau Cefnogol: