Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfyniad:
Penderfynwyd bod y Pwyllgor Gwaith -
-
Yn cymeradwyo’r Cynllun Busnes Cyffredinol fel
y ddogfen sy’n nodi’r trefniadau ar gyfer cyflawni
Cynllun Twf Gogledd Cymru fel sail ar gyfer ymrwymo i’r
Cytundeb Terfynol a derbyn y Llythyr Cynnig Grant gyda Llywodraeth
y DU a Llywodraeth Cymru ac yn argymell bod y Cyngor Llawn yn ei
gymeradwyo.
-
Yn cymeradwyo’r darpariaethau yng Nghytundeb
Llywodraethu 2 mewn perthynas â’r swyddogaethau
gweithredol, ac yn argymell bod y Cyngor Llawn yn
cymeradwyo’r darpariaethau mewn perthynas â
swyddogaethau anweithredol, a’i fod yn benodol yn
mabwysiadu’r dirprwyaethau a’r Cylch Gorchwyl yng
“Nghytundeb Llywodraethu 2: Atodiad 1” ohono fel sail
ar gyfer cwblhau’r Cytundeb Terfynol a derbyn y Llythyr
Cynnig Grant gyda Llywodraeth Cymru.
-
Yn cymeradwyo’n ffurfiol ac yn argymell
i’r Cyngor Llawn awdurdodi’r corff atebol, Cyngor
Gwynedd, i arwyddo’r llythyr Cynnig Cyllid Grant ar ran y
Partneriaid.
-
Yn cymeradwyo’n ffurfiol ac yn argymell
i’r Cyngor Llawn gymeradwyo’r dull a ddefnyddir i
gyfrifo’r gost benthyca sydd ei angen er mwyn hwyluso’r
llif arian negyddol ar gyfer y Cynllun Twf ac i gynnwys darpariaeth
o fewn cyllideb y Cyngor i dalu’r cyfraniad hwn a’r
cyfraniadau craidd ac atodol sydd wedi’u nodi yng Nghytundeb
Llywodraethu 2 (GA2) (ac ym mharagraffau 2.5 - 2.7 yr
adroddiad).
-
Bod y Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad
â’r Arweinydd, y Swyddog Monitro a’r Swyddog
Adran 151 yn derbyn awdurdod dirprwyedig i gytuno ar fân
newidiadau i’r dogfennau gyda’r Partneriaid fel sydd
angen i gwblhau’r cytundeb.
Dyddiad cyhoeddi: 30/11/2020
Dyddiad y penderfyniad: 30/11/2020
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 30/11/2020 - Pwyllgor Gwaith
Dogfennau Cefnogol: