Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc sy'n cynnwys yr Achos Busnes Llawn ar gyfer adeilad ysgol newydd yn lle Ysgol Corn Hir yn Llangefni i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Ar ôl datgan diddordeb personol sy’n rhagfarnu yn y mater hwn, ymneilltuodd y Cynghorydd Richard Dew o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r penderfyniad arno.
Cyflwynodd y Cynghorydd R. Meirion Jones, Aelod Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd Diwylliant ac Ieuenctid, yr adroddiad drwy ddweud bod yr Achos Busnes Llawn wedi cael ei baratoi i sicrhau cyllid cyfalaf ar gyfer adeilad ysgol newydd ar gyfer Ysgol Corn Hir o dan Raglen Band A Ysgolion yr 21ain Ganrif. Os bydd yn llwyddiannus, bydd yn golygu bod Llywodraeth Cymru yn ariannu 50% o gostau'r cynnig gyda gweddill y costau i'w hariannu drwy adnoddau cyfalaf y Cyngor.
Atgoffodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc y pwyllgor o gefndir y cynnig gan ddweud bod holl elfennau'r Achos Busnes Llawn yn seiliedig ar yr opsiwn newydd a ffefrir gan y Cyngor ar ôl cynnal ymgynghoriad statudol rhwng 6 Chwefror a 20 Mawrth 2020 a'i gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith ar 17 Rhagfyr, 2020 sef adeiladu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Corn Hir a gadael Ysgol Bodffordd fel y mae. Lluniwyd yr achos Busnes yn unol â chanllawiau Achos Busnes Ysgolion yr 21ain Ganrif yn seiliedig ar yr Achos Busnes – Model Pum Achos ac mae'n darparu gwybodaeth mewn perthynas â phob cam o ddatblygiad y cynnig mewn perthynas â'r achos strategol, yr achos economaidd, yr achos masnachol, yr achos rheoli a'r achos ariannol dros y cynnig.
Diolchodd y Pwyllgor Gwaith i'r Gwasanaeth Dysgu a staff y Gwasanaeth Trawsnewid am eu gwaith ar yr Achos Busnes Llawn.
Penderfynwyd –
· Cymeradwyo'r Achos Busnes Llawn ar gyfer adeilad ysgol newydd yn lle Ysgol Corn Hir
· Cymeradwyo cyflwyno'r Achos Busnes Llawn i Lywodraeth Cymru
· Cymeradwyo bod derbyniadau cyfalaf yn cael eu neilltuo ar gyfer codi adeilad newydd yr ysgol yn lle Ysgol Corn Hir, yn amodol ar unrhyw broblemau sy'n codi wrth werthu'r safle.
· Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc mewn ymgynghoriad â'r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a Chyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro i ddiwygio'r Achos Busnes Llawn os oes angen – os nad yw'r newidiadau'n arwain at newidiadau sylweddol (o ran polisi, egwyddorion, cyfraniad ariannol, risgiau a niwed i drydydd partïon).
Dyddiad cyhoeddi: 18/01/2021
Dyddiad y penderfyniad: 18/01/2021
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 18/01/2021 - Pwyllgor Gwaith
Dogfennau Cefnogol: