Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfynwyd argymell i’r Cyngor Llawn ei fod yn –
• Nodi argymhellion y Pwyllgor Penodi a chadarnhau:
· Dileu swydd Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol (swydd sydd hefyd wedi ei hadnabod fel Cyfarwyddwr Rheoleiddio a Datblygu Economaidd yn ystod y broses recriwtio ddiweddar) o Gyfansoddiad y Cyngor;
· Creu rôl barhaol Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd ac i'r rôl hon gael ei hysbysebu'n allanol;
· Sefydlu a hysbysebu'n allanol swydd newydd, sef Swyddog Strategaeth Gorfforaethol.
• Cadarnhau cynnwys Atodiad 2, sy'n adlewyrchu'r diwygiadau uchod i strwythur y Cyngor yng Nghyfansoddiad y Cyngor;
• Cadarnhau ei fod yn cymeradwyo bod y Prif Weithredwr (yn dilyn ymgynghoriad), yn unol â'r awdurdod sydd wedi ei gynnwys yn rhan 3.5.2.11 o'r Cyfansoddiad, ac o ganlyniad i'r newid strwythurol uchod, yn rhannu'r meysydd cyfrifoldeb perthnasol ymhlith yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth a'r Penaethiaid Gwasanaeth, fel bo'r angen.
• Cadarnhau ei fod yn cymeradwyo bod y Swyddog Monitro, yn unol â'r awdurdod sydd wedi ei gynnwys yn rhan 3.5.3.6.6 o'r Cyfansoddiad, yn diwygio'r Cyfansoddiad (gan gynnwys y cynllun dirprwyo i swyddogion) i adlewyrchu'r penderfyniadau a wnaed gan y Cyngor mewn perthynas â’r newid strwythurol uchod a dosbarthiad y cyfrifoldebau ymhlith yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth a'r Penaethiaid Gwasanaeth fel y gwnaed gan y Prif Weithredwr dan y chweched pwynt bwled uchod.
• Cadarnhau ei fod yn cymradwyo bod y Swyddog Monitro yn gwneud unrhyw newidiadau canlyniadol eraill i’r cyfansoddiad i adlewyrchu’r argymhellion uchod.
Dyddiad cyhoeddi: 25/01/2021
Dyddiad y penderfyniad: 25/01/2021
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 25/01/2021 - Pwyllgor Gwaith
Dogfennau Cefnogol: