Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
10.1 VAR/2020/60 – Cais o dan Adran 73A i ddiwygio amod (08)(Cynllun tirwedd) a (09)(Cynlluniau a Gymeradwywyd) o caniatâd cynllunio rhif 32C128F (Codi annedd) er mwyn caniatáu dyluniad diwygiedig a chyflwyno cynllun tirlunio ar ôl i’r gwaith ddechrau ar dir yn Tŷ Newydd, Llanfair yn Neubwll.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais ac i roi’r grym i Swyddogion weithredu unwaith y byddai’r cyfnod o ymgynghori statudol wedi dod i ben.
10.2 FPL//2020/249 – Cais llawn ar gyfer codi annedd ynghyd a datblygiadau cysylltiedig (er mwyn diwygio dyluniad ac gosodiad a ganiateir odan cais cyfeirnod 42C258A) ar dir tu cefn i Tyddyn Orsedd, Rhoscefnhir.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad a bod Amod 1 o fewn yr adroddiad yn cael ei ddiwygio er
mwyn adlewyrchu’r ffaith na fydd y datblygiad yn dechrau ddim hwyrach na 8 Rhagfyr, 2022 o ganlyniad i’r sefyllfa wrth gefn gan fod y
safle eisoes â chaniatad cynllunio sy’n bodoli.
Dyddiad cyhoeddi: 10/02/2021
Dyddiad y penderfyniad: 10/02/2021
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 10/02/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dogfennau Cefnogol: