Manylion y penderfyniad

Applications Arising

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

7.1  FPL/2020/195 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu gan gynnwys ardal wedi'i decio, gwaith cysylltiedig a mesurau lliniaru yn Sea Shanty Café, Lon St. Ffraid, Trearddur

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais ac ar ôl i’r cyfnod ymgynghori statudol ddod i ben, awdurdodi’r Swyddog i weithredu ar y dystysgrif berchnogaeth ddiwygiedig, Asesiad Canlyniadau Llifogydd atodol a Datganiad ar yr Iaith Gymraeg.

 

7.2  FPL/2019/217 – Cais llawn ar gyfer codi 17 o anheddau fforddiadwy, adeiladu dwy fynedfa newydd ar gyfer cerbydau a 3 mynedfa amaethyddol newydd, gosod gorsaf bwmpio ynghyd â gwaith tirlunio meddal a chaled ar dir ger Stad Craig y Don a Cherry Tree Close, Benllech

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a gynhwysir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.3  VAR/2020/66 – Cais o dan Adran 73 i dynnu amod (10) (Sgrin gwydr aneglur) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2019/134 (Codi 8 fflat) yn yr Hen Ysgol Gynradd, Ffordd Pentraeth, Porthaethwy

 

PENDERFYNWYD cadarnhau’r penderfyniad blaenorol i wrthod y cais.

 

Dyddiad cyhoeddi: 03/03/2021

Dyddiad y penderfyniad: 03/03/2021

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 03/03/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Dogfennau Cefnogol: