Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfynwyd –
· Cydnabod Methodoleg Ffioedd Gogledd Cymru, fel y cafodd ei gweithredu hyd yma gan yr Awdurdodau yng Ngogledd Cymru, fel sylfaen ar gyfer pennu ffioedd yn Ynys Môn yn ystod 2021/22.
· Cymeradwyo’r argymhelliad i gynyddu’r lefelau ffioedd fel y nodwyd yn Nhabl 2 yn yr adroddiad.
· Yn yr un modd ag Awdurdodau eraill, rhoi’r awdurdod i’r Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Swyddogaeth Adnoddau ymateb i unrhyw geisiadau gan gartrefi unigol i edrych ar eu cyfrifon penodol a defnyddio’r ymarfer fel sylfaen i ystyried unrhyw eithriadau i’r ffioedd y cytunwyd arnynt. Rhaid i unrhyw eithriadau gael eu cytuno gyda’r Aelod Portffolio, y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a’r Pennaeth Oedolion o’r cyllidebau cyfredol.
Dyddiad cyhoeddi: 22/03/2021
Dyddiad y penderfyniad: 22/03/2021
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 22/03/2021 - Pwyllgor Gwaith
Dogfennau Cefnogol: