Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfynwyd cefnogi a chymeradwyo y canlynol –
· Gwaith datblygu a gweithredu Rhaglen Newid Hinsawdd gorfforaethol newydd fel bod yr awdurdod yn gallu croesi’r bont i fod yn sefydliad carbon niwtral erbyn 2030.
· Mai'r Dirprwy Brif Weithredwr yw'r Uwch Berchennog Cyfrifol.
· Blaenoriaethu adnoddau ar ymrwymiadau'r awdurdodau lleol y cytunwyd arnynt yn y Panel Strategaeth Datgarboneiddio Llywodraeth Leol (adran 3.2.1 yn yr adroddiad).
· Defnyddio cronfa gyfyngedig wrth gefn o £400,000 i greu capasiti/arbenigedd penodol i arwain y gwaith o ddatblygu a chydlynu camau cychwynnol datblygu a darparu.
· Recriwtio Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd gorfforaethol i arwain ar ddatblygu a chyflawni.
· Sefydlu Gweithgor Newid Hinsawdd (gyda chynrychiolaeth wleidyddol) – grŵp cynghori, nad yw'n gwneud penderfyniadau, i wneud argymhellion a cheisiadau.
· Penodi 'Hyrwyddwr Newid Hinsawdd' ar y Pwyllgor Gwaith, a
· Bod y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas yn cael ei benodi’n Bencampwr Newid Hinsawdd y Pwyllgor Gwaith.
Dyddiad cyhoeddi: 22/03/2021
Dyddiad y penderfyniad: 22/03/2021
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 22/03/2021 - Pwyllgor Gwaith
Dogfennau Cefnogol: