Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfynwyd –
· Cymeradwyo argymhellion Cynlluniau Cyflawni a Chomisiynu Grant Cymorth Tai Cyngor Sir Ynys Môn ar gyfer 2021-22, a thrwy hynny, sicrhau y byddir yn cydymffurfio â Thelerau ac Amodau'r Grant;
· Rhoi sêl bendith parthed y cyllid a ddyrennir i bob maes Gwasanaeth, fel yr amlinellwyd yn y Cynllun Comisiynu Cefnogi Pobl ac a gymeradwywyd yn flaenorol gan y Grŵp Cynllunio Cymorth Tai aml-asiantaethol
· Anfon llythyr at Lywodraeth Cymru, ar ran yr Aelod Portffolio Cyllid a’r Aelod Portffolio Tai a Chefnogi Cymunedau, i gydnabod y cynnydd yn y dyraniad grant ac hefyd i bwysleisio pwysigrwydd derbyn sicrwydd hirdymor ynghylch parhad y grant ar y lefel yma fel y gellir gwneud darpariaeth briodol ar gyfer y bobl hynny y mae’r cyllid yn eu cynorthwyo ac er mwyn hwyluso gwaith cynllunio cyllidebol ac ariannol.
Dyddiad cyhoeddi: 22/03/2021
Dyddiad y penderfyniad: 22/03/2021
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 22/03/2021 - Pwyllgor Gwaith
Dogfennau Cefnogol: