Manylion y penderfyniad

Departure Applications

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

10.1 VAR/2020/57 – Cais o dan Adran 73A i ddiwygio amod (06) (Manylion Draenio), amod (09)(Newidiadau Strwythurol) ac amod (10) (Datblygiad i'w wneud yn gwbl unol â'r cynlluniau / dogfennau a dderbyniwyd) o ganiatâd cynllunio rhif 28C202C: Cais llawn i newid defnydd stabl i annedd, creu mynedfa newydd i gerbydau ynghyd â gosod tanc carthion er mwyn cyflwyno gwybodaeth draenio ar ôl cychwyn gwaith a newidiadau i'r cynlluniau oedd eisoes wedi eu caniatáu yn Newydd Bach, Llanfaelog, Croes

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau cynllunio a restrir yn yr adroddiad.

 

10.2 VAR/2021/8 – Cais o dan Adran 73a i ddiwygio amod (16) (Cynlluniau wedi’u cymeradwyo) o ganiatâd cynllunio rhif 45C133B (codi 3 annedd ynghyd a chreu mynedfa i gerbydau) er mwyn diwygio'r cynlluniau ar dir ger Bryn Felin, Niwbwrch. 

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau cynllunio a restrir yn yr adroddiad ac yn amodol hefyd ar dderbyn y wybodaeth sy’n weddill fel y disgrifir yn yr adroddiad ac ymatebion gan yr ymgyngoreion sydd eto i ymateb.

 

10.3 VAR/2021/11 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (02) o ganiatâd cynllunio rhif 36C320A a MAO/2018/3 (Codi annedd) er mwyn newid y dyluniad diwygiedig yn Uchaf, Llangristiolus

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau cynllunio a restrir yn yr adroddiad.

Dyddiad cyhoeddi: 07/04/2021

Dyddiad y penderfyniad: 07/04/2021

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 07/04/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Dogfennau Cefnogol: