Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Statws Penderfyniad : Er Penderfyniad
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
7.1 20C310B/EIA/RE - Cais llawn ar gyfer adeiladu fferm arae solar 49.99MW ynghyd ag offer ac isadeiledd cysylltiedig a gwaith ategol ar dir ger Rhyd y Groes, Rhosgoch.
PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddogion ar y sail nad ystyrir bod y cais yn ddigon eithriadol i ganiatáu gwyro oddi wrth bolisi ADN2 y Cynllun Datblygu.
(Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, cafodd y cais ei ohirio’n awtomatig tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad mewn perthynas â’r rhesymau a roddwyd am gymeradwyo’r cais).
7.2 38C180F/VAR - Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (02) o ganiatâd cynllunio rhif 38C180D (cais amlinellol ar gyfer codi annedd a chreu mynedfa newydd) er mwyn caniatáu ymestyn yr amser i gyflwyno cais ar gyfer materion a gadwyd yn ôl yn Gilfach Glyd, Mynydd Mechell.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog ar sail bodolaeth y caniatâd cynllunio amlinellol presennol, cydnabyddiaeth bod y safle’n rhan o’r cyfrifiadau yn y Cynllun Datblygu a rhoi amod ar y caniatâd bod yn rhaid dechrau ar y gwaith o adeiladu’r annedd o fewn blwyddyn a bod y pethau hyn yn ystyriaethau digonol i wrthbwyso’r darpariaethau yn y Cynllun Datblygu.
(Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, cafodd y cais ei ohirio’n awtomatig tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad mewn perthynas â’r rhesymau a roddwyd am gymeradwyo’r cais).
7.3 45C482 - Cais llawn i godi tŵr monopol 20m o uchder ynghyd ag offer cysylltiedig ar dir i'r gogledd ddwyrain o Cae Gors, Niwbwrch.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
7.4 46C569A/ENF - Cais ôl-weithredol ar gyfer cadw trac preifat ar dir ger Moryn, Bae Trearddur.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig ynghyd ag amod ychwanegol mai dim ond yr ymgeisydd gaiff ddefnyddio’r llwybr preifat.
7.5 48C202A - Cais llawn ar gyfer codi annedd ar dir ger Penrallt Bach, Gwalchmai.
PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
Dyddiad cyhoeddi: 01/11/2017
Dyddiad y penderfyniad: 01/11/2017
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 01/11/2017 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dogfennau Cefnogol: