Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
12.1 TPO/2020/13 – Cais i dorri coed sydd wedi eu gwarchod gan Orchymyn Diogelu Coed yn Cae Isaf, Llansadwrn
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amod gynllunio sydd wedi ei chynnwys yn yr adroddiad.
12.2 FPL/2020/150 – Cais llawn ar gyfer codi 9 ty ynghyd â datblygiadau cysylltiedig ar dir yn Lôn Newydd, Llangefni
Penderfynwyd -
· Y dylid cynnal ymweliad safle rhithiol yn achos y cais hwn
· Bod pob ymweliad safle rhithiol mae’r Pwyllgor yn ei gynnal yn cael ei recordio fel mater o arfer.
12.3 MAO/2020/22 – Mân newidiadau i gynllun sydd wedi ei ganiatáu yn flaenorol o dan ganiatád cynllunio 19LPA1025E/CC/VAR er mwyn ychwanegu amod i sicrhau bod y dabtlygiad yn unol â’r cynlluniau a gymeradwywyd ynghyd a diwygio dyluniad, lleoliad a deunydd adeiladu’r storfa finiau a’r standiau beics yn Neuadd y Farchnad, Stryd Stanley, Caergybi
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog.
Dyddiad cyhoeddi: 13/01/2021
Dyddiad y penderfyniad: 13/01/2021
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 13/01/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dogfennau Cefnogol: