Mater - cyfarfodydd

Applications Arising

Cyfarfod: 05/07/2017 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 7)

7 Ceisiadau yn Codi pdf eicon PDF 1 MB

7.1  20C31OB/EIA/RE – Rhyd y Groes, Rhosgoch

7.2  31C170E – Hen Lôn Dyfnia, Llanfairpwll

7.3  34C304K/1/EIA/ECON – Coleg Menai, Ffordd y Coleg, Llangefni

7.4  36C351 – Ty Llwyd, Rhostrehwfa

7.5  45LPA1029A/ECON – Morawelon, Niwbwrch

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 7.1   20C310B/EIA/RE – Cais llawn ar gyfer adeiladu fferm arae solar 49.99MW ynghyd ag offer ac isadeiledd cysylltiedig a gwaith

         ategol ar dir ger Rhyd y Groes, Rhosgoch

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

7.2   31C170E - Cais llawn i godi 16 annedd (10 annedd gyda 2 ystafell wely, 4 annedd gyda 3 ystafell wely a 2 annedd gyda 4 ystafell wely)

        ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau ac i gerddwyr ar dir ger Hen Lôn Dyfnia, Llanfairpwll.

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig a’r amodau ychwanegol a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

7.3   34C304K/1/EIA/ECON - Cais hybrid am ganiatâd cynllunio llawn i greu canolfan beirianneg newydd, maes parcio, lle chwarae i blant a gwaith cysylltiedig a chais am ganiatâd cynllunio amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw’n ôl ar gyfer datblygiad preswyl o 153 o anheddau, gwesty a chyfleuster bwyd a diod ynghyd a lle parcio

      cysylltiedig a gwaith ar dir yn Coleg Menai, Ffordd y Coleg, Llangefni.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.4   36C351 - Cais llawn i ddymchwel yr annedd bresennol ynghyd â chodi annedd newydd yn ei lle, codi garej a storfa offer, cau’r fynedfa gerbydau sy’n gwasanaethu’r annedd bresennol, estyniad i’r cwrtil, addasiadau i’r fynedfa amaethyddol bresennol er mwyn

      gwasanaethu’r annedd arfaethedig a chreu mynedfa amaethyddol newydd i’r cae cyfagos yn Tŷ Llwyd, Rhostrehwfa.

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.5 45LPA1029A/CC/ECON - Cais llawn ar gyfer codi ysgol gynradd newydd ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau ar dir ger

        Morawelon, Niwbwrch.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig, ynghyd ag amodau ychwanegol fel sy'n ofynnol gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

 

Cofnodion:

7.1 20C310B / EIA / RE - Cais llawn i adeiladu fferm arae solar 49.99MW  ynghyd ag offer cysylltiedig, seilwaith a gwaith ategol ar dir ger Rhyd y Groes, Rhosgoch

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ynghyd ag Asesiad o’r Effaith ar yr Amgylchedd. 

 

Ar ôl datgan diddordeb personol a diddordeb sy’n rhagfarnu yn y cais hwn, gadawodd y Cynghorydd R O Jones y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r penderfyniad yn ei gylch. 

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod adroddiad cyfrwymol yr Arolygydd wedi dod i law mewn perthynas â'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ac mae’n rhoi cadarnhad ffurfiol o'i gynlluniau a’i bolisïau. Er bod yr amodau a nodir yn yr adroddiad i'r Pwyllgor yn cynnwys y rhan fwyaf o'r polisïau a restrir yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd,  nid yw Polisi ADN1A (mewn perthynas â cheisiadau PV  Solar o dros 5Mw mewn ardaloedd chwilio posibl) a ddiwygiwyd yn y CDLl ar y Cyd wedi cael sylw llawn o fewn y cais. Felly bydd angen gohirio rhoi sylw i’r cais tan y cyfarfod nesaf er mwyn caniatáu i Swyddogion ddelio â'r mater hwn.

 

Cynigiodd y Cynghorydd KP Hughes bod y cais yn cael ei ohirio ac eiliodd y Cynghorydd Dafydd Roberts.

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

7.2 31C170E - Cais llawn ar gyfer codi 16 o anheddau (10 o anheddau gyda 2 ystafell wely, 4 annedd gyda 3 ystafell wely a 2 annedd gyda 4 ystafell wely) ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau a cherddwyr ar dir ger Hen Lôn Dyfnia, Llanfairpwll

 

Ar ôl datgan diddordeb personol a diddordeb sy’n rhagfarnu  yn y cais hwn, gadawodd y Cynghorydd Robin Williams y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r penderfyniad yn ei gylch.

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn tynnu'n groes i'r cynllun datblygu ond mae’r swyddogion cynllunio yn argymell ei ganiatáu.   Cyfeiriwyd y cais hefyd i sylw’r Pwyllgor gan yr Aelodau Lleol.

 

Dywedodd Mr Gwynne Owen (gwrthwynebydd i'r cynnig) ei fod yn ystyried bod y  cynllun safle ar gyfer y cynnig yn gamarweiniol; mae darn o dir sy'n ymestyn i'r gogledd-ddwyrain nad yw'n rhan o safle Lôn Dyfnia. Gofynnodd i'r Pwyllgor ystyried y cais hwn mewn modd cyfannol gan y bydd yn cael effaith ar y traffig sy'n teithio allan o hen Lôn Dyfnia yn y dyfodol. Cyfeiriodd at set o luniau lliw a gyflwynodd i’r Pwyllgor diwethaf; mae un llun yn dangos polyn telegraff sydd yn amlwg wedi ei ddifrodi gan geir ar sawl achlysur. Nid yw’r swyddogion na'r aelodau etholedig oedd ar yr ymweliad safle wedi sylweddoli cymaint yw’r traffig yn yr ardal ac mae’n gwaethygu gyda’r nos ac ar benwythnosau; mae damwain yn anochel.  Mae trigolion lleol wedi cwyno wrth Scottish Power ac maent o’r farn bod angen rhoi’r llinellau ffôn a thrydan  dan y ddaear yn yr ardal ac maent wedi cadarnhau eu bod yn bwriadu cysylltu â'r Awdurdod Cynllunio yn hyn o beth, ond mae'n amlwg  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7