12 Gweddill y Ceisiadau PDF 604 KB
12.1 15C224/AD – Cilfan yn Hermon
12.2 34C694B – Canolfan Hamdden Plas Arthur, Llangefni
12.3 46C137F – Yr Hen Gae Criced, Bae Trearddur
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
12.1 15C224/AD - Cais i leoli arwydd heb ei oleuo ar dir y tu cefn i gilfan yn Hermon.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais a dirprwyo'r grym i weithredu i Swyddogion gymeradwyo’r cais yn dilyn cyflwyno’r hysbysiad statudol gofynnol i’r tirfeddiannwr.
12.2 34C694B - Cais llawn i greu parc chwaraeon trefol ar dir ger Canolfan Hamdden Plas Arthur, Llangefni
PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.3 46C137F – Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw yn ôl ar gyfer codi 18 o anheddau ynghyd â ffurfio mynedfa newydd i gerbydau yn yr Hen Gae Criced, Lon St Ffraid, Bae Trearddur.
PENDERFYNWYD gwrthod y cais gyda rheswm diwygiedig dros wrthod gan gymryd i ystyriaeth adroddiad cyfrwymol yr Arolygydd mewn perthynas â'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.
Cofnodion:
12.1 15C224 / AD - Cais i leoli arwydd heb ei oleuo i gefn y gilfan yn Hermon
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd yr ystyrir bod y bwrdd arddangos cymunedol ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio ei bod wedi dod i’r amlwg nad oedd y tir ym mherchnogaeth y Cyngor a bydd angen cyflwyno hysbysiad statudol angenrheidiol i’r tirfeddiannwr. Os bydd y tirfeddiannwr yn cytuno y gellir codi’r bwrdd arddangos ar y tir ac os na dderbynnir gwrthwynebiadau yn dilyn y cyfnod ymgynghori statudol dywedodd y gellir rhoi grym i weithredu i swyddogion ganiatáu'r cais.
Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn dilyn cyflwyno’r hysbysiad statudol i’r tirfeddiannwr ac eiliodd y Cynghorydd Eric Jones y cynnig.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais a dirprwyo'r grym i weithredu i Swyddogion gymeradwyo’r cais yn dilyn cyflwyno’r hysbysiad statudol gofynnol i’r tirfeddiannwr.
12.2 34C694B - Cais llawn i greu parc chwaraeon trefol ar dir ger Canolfan Hamdden Plas Arthur, Llangefni
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Cyngor sydd biau safle'r cais.
Safodd y Cynghorydd Nicola Roberts i lawr fel Cadeirydd y Pwyllgor ar gyfer yr ystyriaeth ar y cais hwn fel y gallai siarad fel Aelod Lleol. Aeth y Cynghorydd R O Jones, Is-Gadeirydd i’r Gadair ar gyfer yr eitem.
Dywedodd Mr Peter Davies (o blaid y cais) mai ef oedd Cyfarwyddwr Menter Gymdeithasol Llangefni a nododd bod caniatâd cynllunio wedi'i roi ym mis Mai 2016 ar gyfer parc chwaraeon trefol ym Mhlas Arthur, Llangefni ac ar gyfer cynllun goleuo ar y safle. ’Roedd y cynllun goleuo yn cyflawni un o'r amodau ar y caniatâd cynllunio a roddwyd ym Mai 2016. Gwnaed cais am gyllid grant i'r Gronfa Loteri Fawr ym mis Gorffennaf 2016 i adeiladu Parc Chwaraeon Trefol. Ym mis Chwefror 2017 derbyniwyd cadarnhad bod y fenter wedi llwyddo i sicrhau cyllid o tua £375k ond ar yr amod bod y gwaith o adeiladu'r cyfleuster yn dechrau erbyn 16 Awst , 2017. Heb ganiatâd cynllunio'r mae’r fenter mewn perygl o golli'r arian grant gan Gronfa’r Loteri Fawr. Ers cael gwybod bod y cais am gyllid grant wedi llwyddo ‘roedd gwaith wedi dechrau i edrych i mewn i'r cynllun a gymeradwywyd eisoes ac i gynnal yr arolygon angenrheidiol ar y safle. Dangosodd arolwg topograffig bod y tir yn goleddfu mwy tuag at yr ymyl ogledd-ddwyreiniol nag y sylweddolwyd yn gynharach. ‘Roedd y llethr yn golygu bod posibilrwydd y byddai dŵr wyneb yn cronni ar y safle ac felly roedd angen ei ail ddylunio cyn y cyfarfod hwn fel y gwelir yn y cais. Dywedodd Mr Davies ymhellach bod problemau ymddygiad gwrthgymdeithasol gyda'r parc sglefrio gwreiddiol ac ar ôl cael cyngor gan Heddlu Gogledd Cymru penderfynwyd bod llinellau gwelededd clir ar draws y parc chwaraeon trefol yn atal pobl rhag ymgynnull mewn mannau lle gallent guddio. Mae cyflwyno system teledu cylch cyfyng hefyd yn rhan o'r ymdrech i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol sydd wedi bod o bryder ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12