Mater - cyfarfodydd

Materion Eraill

Cyfarfod: 05/07/2017 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 13)

13 Materion Eraill pdf eicon PDF 200 KB

13.1  21C58H – Plas Eurach, Llanddaniel Fab

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

13.1      21C58H - Cais llawn ar gyfer codi 10 uned gwyliau ychwanegol ym Mharc Eurach, Llanddaniel Fab.

 

PENDERFYNWYD enwebu’r Cynghorydd Dafydd Roberts a'r cyn-Aelod etholedig, Mr. T. Victor Hughes i gymryd rhan yn yr apêl, ar ffurf ysgrifenedig, ar ran y Cyngor.

Cofnodion:

13.1 21C58H - Cais llawn ar gyfer codi 10 o unedau gwyliau ychwanegol yn  Parc Eurach, Llanddaniel Fab

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion, yn ei gyfarfod ar 5 Ebrill 2017, wedi penderfynu gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.  Derbyniwyd hysbysiad o apêl a dyddiad dechrau erbyn hyn. Mae'r hysbysiad yn dangos y gall yr apêl symud ymlaen drwy'r weithdrefn ysgrifenedig gan nad yw’r cynigydd ar gyfer gwrthod y cais na’r eilydd yn aelodau o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion bellach.

 

Dywedodd y Cadeirydd bod y cyn-Aelod etholedig, Mr T. Victor Hughes wedi datgan ei fod yn barod i gymryd rhan yn yr apêl, ar ffurf ysgrifenedig, ar ran y Cyngor. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams fod y Cynghorydd Dafydd Roberts yn cael ei enwebu i gymryd rhan yn yr apêl a chynigiodd hefyd bod y cyn-Aelod etholedig, Mr. T. Victor Hughes yn cael ei enwebu i gynrychioli'r Cyngor hefyd. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts.

 

PENDERFYNWYD enwebu’r Cynghorydd Dafydd Roberts a'r cyn-Aelod etholedig, Mr. T. Victor Hughes i gymryd rhan yn yr apêl, ar ffurf ysgrifenedig, ar ran y Cyngor.