13.1 21C58H – Plas Eurach, Llanddaniel Fab
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
13.1 21C58H - Cais llawn ar gyfer codi 10 uned gwyliau ychwanegol ym Mharc Eurach, Llanddaniel Fab.
PENDERFYNWYD enwebu’r Cynghorydd Dafydd Roberts a'r cyn-Aelod etholedig, Mr. T. Victor Hughes i gymryd rhan yn yr apêl, ar ffurf ysgrifenedig, ar ran y Cyngor.
Cofnodion:
13.1 21C58H - Cais llawn ar gyfer codi 10 o unedau gwyliau ychwanegol yn Parc Eurach, Llanddaniel Fab
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion, yn ei gyfarfod ar 5 Ebrill 2017, wedi penderfynu gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog. Derbyniwyd hysbysiad o apêl a dyddiad dechrau erbyn hyn. Mae'r hysbysiad yn dangos y gall yr apêl symud ymlaen drwy'r weithdrefn ysgrifenedig gan nad yw’r cynigydd ar gyfer gwrthod y cais na’r eilydd yn aelodau o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion bellach.
Dywedodd y Cadeirydd bod y cyn-Aelod etholedig, Mr T. Victor Hughes wedi datgan ei fod yn barod i gymryd rhan yn yr apêl, ar ffurf ysgrifenedig, ar ran y Cyngor.
Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams fod y Cynghorydd Dafydd Roberts yn cael ei enwebu i gymryd rhan yn yr apêl a chynigiodd hefyd bod y cyn-Aelod etholedig, Mr. T. Victor Hughes yn cael ei enwebu i gynrychioli'r Cyngor hefyd. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts.
PENDERFYNWYD enwebu’r Cynghorydd Dafydd Roberts a'r cyn-Aelod etholedig, Mr. T. Victor Hughes i gymryd rhan yn yr apêl, ar ffurf ysgrifenedig, ar ran y Cyngor.