Mater - cyfarfodydd

Applications that will be Deferred

Cyfarfod: 04/10/2017 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 6)

6 Ceisiadau fydd yn cael eu Gohirio pdf eicon PDF 373 KB

6.1 – 13C195A – Gate Farm, Trefor

6.2 – 20C310B/EIA/RE – Rhyd y Groes, Rhosgoch

6.3 – 45C482 – Cae Gors, Niwbwrch

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

6.1       13C195A – Cais llawn ar gyfer sied amaethyddol a pharlwr godro ynghyd â chreu pwll slyri a gwaith cysylltiedig yn Gate Farm, Trefor

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais a’i fod yn cael ei dynnu oddi ar raglen y Pwyllgor am y tro yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd.

 

6.2       20C310B/EIA/RE – Cais llawn ar gyfer adeiladu fferm arae solar 49.99 MW ynghyd ag offer ac isadeiledd cysylltiedig a gwaith ategol ar dir ger Rhyd y Groes, Rhosgoch.

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd.

 

6.3       45C482 – Cais llawn i godi twr “lattice” 21m o uchder ac offer cysylltiedig ar dir i ogledd dwyrain Cae Gors, Niwbwrch

 

Penderfynwyd ymweld â’r safle’r yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd.

Cofnodion:

6.1     13C195A – Cais llawn i godi sied amaethyddol a pharlwr godro ynghyd ag adeiladu pwll slyri a datblygiad cysylltiedig yn Gate Farm, Trefor

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod Aelodau'r Pwyllgor wedi ymweld â safle'r cais ar 20 Medi, 2017. Mae'r cais hefyd wedi'i sgrinio gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol fel un y  bydd angen Datganiad Amgylcheddol ar ei gyfer o dan y Rheoliadau Asesu Effaith Amgylcheddol; mae’r ymgeisydd wedi derbyn hynny. O dan yr amgylchiadau hyn, argymhellir bod y cais yn cael ei dynnu oddi ar y rhaglen gan nad yw'n debygol y bydd adroddiad arno yn y dyfodol agos.

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais a'i dynnu oddi ar raglen y Pwyllgor am y tro, a hynny’n unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd.

 

6.2     20C310B/EIA/RE – Cais llawn i adeiladu fferm arae solar 49.99 MW ynghyd â chyfarpar, isadeiledd a gwaith ategol cysylltiedig ar dir ger Rhyd y Groes, Rhosgoch.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio at hanes y cais a dywedodd y gohiriwyd rhoi sylw iddo mewn nifer o gyfarfodydd am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad. Gohiriwyd ystyried y cais yng nghyfarfod mis Medi, 2017 i ganiatáu i'r ymgeisydd gyflwyno manylion ynghylch lliniaru sŵn. Er nad oedd y manylion hynny ar gael ar adeg ysgrifennu'r adroddiad, maent bellach wedi dod i law a byddant yn destun ymgynghoriad pellach. Gan mai dyna oedd y sefyllfa, argymhellwyd y dylid gohirio ystyried y cais er mwyn caniatáu i'r ymgynghoriad hwnnw ddigwydd.

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd.

 

6.3     45C482 – Cais llawn ar gyfer codi tŵr latis 21m o uchder gydag offer cysylltiedig ar dir i'r gogledd-ddwyrain o Cae Gors, Niwbwrch

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio yr ystyrir bod angen ymweld â’r safle er mwyn i'r Aelodau weld y cynnig yn ei gyd-destun cyn penderfynu ar y cais.

Penderfynwyd ymweld â safle'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd.

 

Penderfynwyd ymweld â safle'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd.