Mater - cyfarfodydd

Development Proposals Submitted by Councillors and Officers

Cyfarfod: 04/10/2017 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 11)

11 Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 161 KB

11.1 – 36C351A/VAR – Ty Llwyd, Rhostrehwfa

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

11.1    36C351A/VAR – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (12) o ganiatâd cynllunio rhif 36C351 (rhaid ymgymryd â’r datblygiad a ganiateir gan y caniatâd hwn yn fanwl yn ôl y cynlluniau) er mwyn codi lefel y llawr gorffenedig yn Ty Llwyd, Rhostrehwfa

 

Penderfynwyd caniatau’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir o (02) ymlaen yn yr adroddiad ysgrifenedig [nid oes angen amod (01) erbyn hyn].

Cofnodion:

11.1 36C351A/VAR – Cais o dan Adran 73 i amrywio amod (12) yng nghaniatâd cynllunio cyfeirnod 36C351 (rhaid gweithredu’r datblygiad a ganiateir yma yn gwbl  unol â'r cynlluniau a gymeradwywyd) er mwyn caniatáu codi'r lefelau llawr gorffenedig yn Llwyd, Rhostrehwfa

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn gyfaill agos i swyddog perthnasol fel y'i diffinnir ym mharagraff 4.6.10.2 Cyfansoddiad y Cyngor. Craffwyd ar y cais gan y Swyddog Monitro fel sy'n ofynnol dan y paragraff hwnnw.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y datblygwr, ar ôl cychwyn gwaith ar y safle, wedi gweld bod y manylion a gyflwynwyd fel rhan o'r cais cynllunio 36C351 yn anghywir ac y dylai lefel llawr gorffenedig yr annedd arfaethedig fod yn 77.15m AOD ac nid 76.15m AOD fel y nodwyd ar y cynlluniau a gymeradwywyd. Cyflwynwyd y cais hwn er mwyn cywiro'r anghysondeb ac i sicrhau nad yw lefel llawr gorffenedig yr annedd arfaethedig yn is na'r lefel daear arfaethedig. Mae gwaith i weithredu'r caniatâd gwreiddiol wedi dechrau ac mae wedi datgelu craig solet ar safle’r cais a byddai angen gwneud gwaith clirio sylweddol i’w thynnu oddi yno er mwyn gostwng lefel y ddaeardyna’r rheswm am y cynnig i godi lefel llawr yr annedd arfaethedig.  Ym marn y Swyddog, er y bydd y cynnydd yn uchder lefel llawr gorffenedig yr annedd arfaethedig yn gwneud yr annedd ychydig bach yn fwy amlwg, ni fydd yn niweidio'r dirwedd gyfagos i’r fath raddau y gellid cyfiawnhau gwrthod y cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Eric Jones y dylid cymeradwyo'r cais; eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir o (02) ymlaen yn yr adroddiad ysgrifenedig [nid oes angen amod (01) erbyn hyn.]