12 Gweddill y Ceisiadau PDF 443 KB
12.1 15C224/AD – Hermon
12.2 15C225/AD – Maes Parcio Malltraeth
12.3 46C572 – Glan Traeth, Trearddur
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
12.1 15C224/AD - Cais i leoli arwydd heb ei oleuo ar dir y tu cefn i gilfan yn Hermon.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.2 15C225/AD Cais i leoli arwydd heb ei oleuo ar dir ym Maes Parcio Malltraeth Car Park, Malltraeth.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.3 46C572 - Cais llawn i newid adeiladau allanol yn 3 annedd, gosod paced trin carthffosiaeth ynghyd â gwelliannau i'r fynedfa yn Glan Traeth, Bae Trearddur.
PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
Cofnodion:
12.1 15C224/AD – Cais i leoli arwydd heb ei oleuo ar dir y tu cefn i’r gilfan yn Hermon
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais wedi cael ei gymeradwyo gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 5 Gorffennaf, 2017. Fodd bynnag, cyn gwneud penderfyniad, hysbyswyd yr Awdurdod Cynllunio mai trydydd parti sydd biau’r tir ble bwriedir lleoli’r bwrdd arddangos ac nid y Cyngor fel y dywedwyd yn wreiddiol. Mae’r bwrdd arddangos wedi cael ei ail-leoli ar dir sydd ym meddiant y Cyngor.
Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cymeradwyo’r cais ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.2 15C225/AD – Cais i leoli arwydd heb ei oleuo ar dir ym Maes Parcio Malltraeth
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd mae’r bwrdd arddangos cymunedol arfaethedig ar dir sydd ym meddiant y Cyngor.
Er bod y bwrdd arddangos wedi ei leoli yn yr AHNE, dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio nad ystyrir y byddai’n cael effaith andwyol ar fwynderau’r ardal.
Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cymeradwyo’r cais ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.3 46C572 – Cais llawn i addasu adeiladau allanol yn dair annedd, gosod paced trin carthffosiaeth ynghyd â gwella’r fynedfa yn Glan Traeth, Trearddur
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais wedi cael ei gymeradwyo yn y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 2 Tachwedd 2016 yn amodol ar ddatrys y materion draenio a godwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru; hyd yma, nid yw’r ymgeisydd wedi gweithredu ar ofynion CNC. Oherwydd bod y ddau gyngor wedi mabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ar gyfer Môn a Gwynedd ar 31 Gorffennaf 2017, mae’r polisïau mewn perthynas ag addasu adeiladau allanol wedi newid a bod yr argymhelliad yn awr yn un o wrthod oherwydd Polisi TAI 7 y Cynllun Datblygu. Mae’r ymgeisydd wedi cael y cyfle i ymateb i’r newidiadau y mae’r polisi’n mynnu arnynt ac i ddarparu tystiolaeth o gydymffurfiaeth gyda TAI 7, ond ni chafwyd unrhyw ymateb.
Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid gwrthod y cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Shaun Redmond.
PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.