Mater - cyfarfodydd

Schools' Modernisation - Seiriol Area - Informal Consultation

Cyfarfod: 30/10/2017 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 9)

9 Moderneiddio Ysgolion – Ardal Seiriol – Ymgynghoriad Anffurfiol pdf eicon PDF 3 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd

 

·        Bod argymhelliad yr adroddiad ar yr ymgynghori anstatudol yn ardal Seiriol yn cael ei weithredu.

·        Awdurdodi Swyddogion y Gyfadran Dysgu Gydol Oes i fynd allan i ymgynghori’n statudol ar y cynigion dan sylw fel a ganlyn :

 

·                     Cau Ysgol Biwmares ac i rieni’r disgyblion sydd ar y gofrestr ar yr adeg pan fydd y Pwyllgor Gwaith yn gwneud y penderfyniad ddatgan eu dewis am naill ai Ysgol Llandegfan neu Ysgol Llangoed yn unol â’r polisi mynediad ysgolion.

·                     Adolygu dalgylchoedd presennol y dair ysgol gyda’r bwriad o weithredu unrhyw newidiadau pan fydd Ysgol Biwmares yn cau.

·                     Adnewyddu Ysgol Llangoed ac Ysgol Llandegfan; ac

·                     Ystyried ffederaleiddio Ysgol Llangoed ac Ysgol Llandegfan ar ddiwedd y broses hon.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Dysgu yn cynnwys canlyniad yr ymgynghoriad anffurfiol, anstatudol ar foderneiddio'r ddarpariaeth addysg gynradd yn ardal Seiriol i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith. Roedd yr adroddiad yn nodi'r cyd-destun o ran y gyrwyr am newid; yr ymatebion o'r tri chyfarfod ymgynghori a gynhaliwyd gyda staff, llywodraethwyr a rhieni disgyblion y tair ysgol yr effeithir arnyntBiwmares, Llandegfan a Llangoed yn ogystal â rhan-ddeiliaid eraill; dadansoddiad o'r opsiynau ar gyfer newid a wnaed yn unol â system sgorio sefydledig a'r opsiwn yr argymhellwyd y dylid bwrw ymlaen i gynnal  ymgynghoriad statudol yn ei gylch.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Addysg fod y Pwyllgor Gwaith wedi cytuno bod Swyddogion y Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes yn cynnal ymgynghoriad anffurfiol neu anstatudol ar y ddarpariaeth addysg gynradd yn ardal Seiriol yn ôl ym mis Mehefin, 2016. Cynhaliwyd y broses hon dros y cyfnod rhwng 19 Mehefin a 30 Gorffennaf 2017, pan gafwyd tri chyfarfod â rhan-ddeiliaid yn Ysgolion Llangoed, Biwmares a Llandegfan. ‘Roedd wedi mynychu’r cyfarfodydd hynny. Dywedodd yr Aelod Portffolio hefyd fod y mater hwn wedi cael sylw manwl gan y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yr wythnos flaenorol, ac ar ôl ystyried a thrafod yn ofalus, fod y Pwyllgor wedi cefnogi'r argymhellion a gyflwynwyd a oedd yn cynnwys cynnal ymgynghoriad statudol ar gau Ysgol Biwmares. Yn nghyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini, roedd wedi amlinellu'r sail ar gyfer yr argymhelliad, gan gynnwys, ymhlith ffactorau eraill; y gostyngiad yn nifer y disgyblion; y lleoedd dros ben yn Ysgol Biwmares a chost uchel y ddarpariaeth yn sgil hynny; ynghyd â maint y buddsoddiad y mae angen ei wneud yn adeilad yr ysgol. Roedd yr holl opsiynau a sgoriodd uchaf yn erbyn y ffactorau hyn ar gyfer newid yn cynnwys cau Ysgol Biwmares. Roedd wedi datgan yn y cyfarfod ei fod yn agored i unrhyw opsiwn ymarferol arall yn hytrach na chau’r ysgol ac roedd  hynny'n parhau. Fodd bynnag, hyd yn hyn ni chyflwynwyd unrhyw opsiynau amgen o’r fath. Cydnabu fod hwn yn benderfyniad anodd ond o ystyried yr amgylchiadau ariannol heriol y mae awdurdodau lleol yn gorfod gweithio ynddynt, a'r newid ymagwedd y mae hynny’n ei olygu, mae'n annhebygol mai hwn fydd y penderfyniad anodd olaf y bydd angen ei wneud.

 

Dywedodd y Pennaeth Dysgu fod yr ymgynghoriad cychwynnol a gynhaliwyd yn broses anffurfiol a gynlluniwyd i gael sylwadau a barn y gymuned leol, yn ogystal ag unrhyw syniadau newydd, a’i fod yn gam ychwanegol yr oedd Cyngor Sir Ynys Môn wedi ei gymryd o ddewis ac ystyrir ei fod yn arfer da. Pan gynhaliwyd y broses moderneiddio ysgolion yn y gorffennol, mae'r safbwyntiau a'r sylwadau a fynegwyd yn y cam anffurfiol, anstatudol wedi cyfrannu at lunio'r penderfyniad a wnaed yn y pen draw.  Yn achos ardal Seiriol, cyflwynwyd nifer o sylwadau ac opsiynau ychwanegol yn ystod yr ymgynghoriad anffurfiol a chafodd y rhain eu  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 9