10 Adolygiad o Berfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol (AGGCC) PDF 1 MB
Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr Cynorthwyol – Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
· Derbyn Llythyr Adolygu Perfformiad Blynyddol AGGCC a nodi ei gynnwys.
· Cymeradwyo’r Cynllun Gweithredu mewn ymateb i’r Llythyr Adolygu Perfformiad Blynyddol.
Cofnodion:
Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Prif Weithredwr Cynorthwyol a'r Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol yn ymgorffori Llythyr Perfformiad Blynyddol AGGCC mewn perthynas â Gwasanaethau Cymdeithasol Ynys Môn ynghyd â’r Cynllun Gweithredu canlyniadol.
Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol a Chyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol mai'r llythyr Perfformiad Blynyddol yw'r cyntaf o'i fath gan AGGCC ac mae'n adrodd, a hynny ar ffurf newydd, ar berfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys meysydd lle gwnaed cynnydd. Mae'n rhoi mwy o sylw i’r Gwasanaethau Oedolion gan fod y Gwasanaethau Plant eisoes wedi bod yn destun arolygiad ym mis Tachwedd, 2016 ac ‘roedd yr argymhellion yn deillio o'r arolygiad hwnnw’n cael eu gweithredu ar hyn o bryd. Mae'r llythyr wedi'i ddrafftio yn dilyn cyfarfod adolygu perfformiad blynyddol AGGCC gyda Gwasanaethau Cymdeithasol Ynys Môn ar 24 Mawrth, 2017 lle'r oedd y rheoleiddiwr yn rhoi adborth ar ei weithgaredd arolygu, ymgysylltu a pherfformiad dros y 12 mis blaenorol. Er mwyn sicrhau bod materion a godir yn y llythyr yn cael sylw, lluniwyd Cynllun Gweithredu Blaenoriaethau Gwella sy'n ceisio mynd i'r afael â phob blaenoriaeth gwella a nodwyd o fewn amserlen benodol lle bo modd.
Penderfynwyd -
• Derbyn Llythyr Adolygu Perfformiad Blynyddol AGGCC a nodi ei gynnwys.
• Cymeradwyo'r Cynllun Gweithredu mewn ymateb i'r Llythyr Adolygu Perfformiad Blynyddol.