Mater - cyfarfodydd

Annual Report - Achievements against the Tenants Participation Strategy

Cyfarfod: 30/10/2017 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 12)

12 Adroddiad Blynyddol – Cyflawniadau yn erbyn y Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid pdf eicon PDF 486 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd –

 

·        Derbyn yr adroddiad cynnydd ar y Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid ar gyfer 2016/17.

·        Bod Aelodau Etholedig a’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth i chwarae rhan weithredol mewn perthynas â hyrwyddo cyfranogiad tenantiaid a sicrhau bod gan yr holl denantiaid lais a rhan i’w chwarae mewn datblygiadau tai a chorfforaethol yn y dyfodol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai yn nodi'r cynnydd yn erbyn y Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Tai a Chefnogi Cymunedau fod yr adroddiad yn adlewyrchu nifer o lwyddiannau yn 2016/17 o ran ymgysylltu’n adeiladol â thenantiaid a les-ddeiliaid ar faterion sy'n ymwneud â sut y rheolir eu cartrefi.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai y bydd y gwasanaeth yn ceisio ffyrdd newydd a modern o sicrhau y gellir clywed barn tenantiaid yn 2017/18.

 

Dywedodd y Cynghorydd Gwilym O. Jones, sef Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio, fod y Pwyllgor Sgriwtini wedi ystyried yr adroddiad cynnydd yn ei gyfarfod ar 9 Hydref, 2017 ac wedi nodi'r canlynol -

 

  Roedd y Pwyllgor yn pryderu ynghylch effaith cyflwyno Credyd Cynhwysol ar deuluoedd bregus, yn enwedig yr oedi cyn y byddant yn derbyn taliadau a'r caledi ariannol y gallai hyn ei achosi. Roedd y Pwyllgor yn glir na ddylai unrhyw denantiaid fod mewn perygl o golli eu cartref os na allant dalu eu rhent am gyfnod dros dro oherwydd oedi o’r fath.

  Nododd a chefnogodd y Pwyllgor y prosiect diwrnodau glanhau stadau.

  Nododd y Pwyllgor y berthynas dda rhwng y Gwasanaeth Tai a Heddlu Gogledd Cymru mewn perthynas â rhannu gwybodaeth i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ar stadau.

  Nododd y Pwyllgor bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i ddatblygu’r lolfeydd cymunedol mewn stadau tai gwarchod ar yr Ynys fel canolfan ar gyfer hybiau cymunedol a bod ymgynghoriad yn digwydd gyda thenantiaid ar y posibilrwydd o wneud mwy o ddefnydd o’r lolfeydd hyn.

  Cydnabu'r Pwyllgor lwyddiant grŵp Llais Tenantiaid a Swyddogion Môn a chefnogodd y bwriad i gynyddu cynrychiolaeth o blith tenantiaid o ardaloedd ledled yr Ynys.

  Cefnogodd y Pwyllgor y syniad y dylid rhannu'r adroddiad yn un o’r Sesiynau Briffio ar gyfer Aelodau.

 Roedd y Pwyllgor wedi derbyn yr adroddiad ac yn cefnogi'r argymhellion ynddo.

 

Penderfynwyd -

 

  Derbyn yr adroddiad cynnydd ar y Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid ar gyfer 2016/17.

  Bod Aelodau Etholedig a’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn chwarae rhan weithredol mewn perthynas â hyrwyddo cyfranogiad tenantiaid a sicrhau bod gan yr holl denantiaid lais a rhan i’w chwarae mewn datblygiadau tai a chorfforaethol yn y dyfodol.