Mater - cyfarfodydd

Applications Arising

Cyfarfod: 01/11/2017 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 7)

7 Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 959 KB

7.1  20C310B/EIA/RE – Rhyd y Groes, Rhosgoch

7.2  30C180F/VAR – Gilfach Glyd, Mynydd Mechell

7.3  45C482 – Cae Gors, Niwbwrch

7.4  46C569A/ENF – Moryn, Bae Trearddur

7.5  48C202A -   Penrallt Bach, Gwalchmai

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

7.1         20C310B/EIA/RE - Cais llawn ar gyfer adeiladu fferm arae solar 49.99MW ynghyd ag offer ac isadeiledd cysylltiedig a gwaith ategol ar dir ger Rhyd y Groes, Rhosgoch.

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddogion ar y sail nad ystyrir bod y cais yn ddigon eithriadol i ganiatáu gwyro oddi wrth bolisi ADN2 y Cynllun Datblygu.

 

(Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, cafodd y cais ei ohirio’n awtomatig tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad mewn perthynas â’r rhesymau a roddwyd am gymeradwyo’r cais).

 

7.2         38C180F/VAR -  Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (02) o ganiatâd cynllunio rhif 38C180D (cais amlinellol ar gyfer codi annedd a chreu mynedfa newydd) er mwyn caniatáu ymestyn yr amser i gyflwyno cais ar gyfer materion a gadwyd yn ôl yn Gilfach Glyd, Mynydd Mechell.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog ar sail bodolaeth y caniatâd cynllunio amlinellol presennol, cydnabyddiaeth bod y safle’n rhan o’r cyfrifiadau yn y Cynllun Datblygu a rhoi amod ar y caniatâd bod yn rhaid dechrau ar y gwaith o adeiladu’r annedd o fewn blwyddyn a bod y pethau hyn yn ystyriaethau digonol i wrthbwyso’r darpariaethau yn y Cynllun Datblygu.

 

(Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, cafodd y cais ei ohirio’n awtomatig tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad mewn perthynas â’r rhesymau a roddwyd am gymeradwyo’r cais).

 

7.3         45C482 - Cais llawn i godi tŵr monopol 20m o uchder ynghyd ag offer cysylltiedig ar dir i'r gogledd ddwyrain o Cae Gors, Niwbwrch.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.4         46C569A/ENF - Cais ôl-weithredol ar gyfer cadw trac preifat ar dir ger Moryn, Bae Trearddur.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig ynghyd ag amod ychwanegol mai dim ond yr ymgeisydd gaiff ddefnyddio’r llwybr preifat.

 

7.5         48C202A - Cais llawn ar gyfer codi annedd ar dir ger Penrallt Bach, Gwalchmai.

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

Cofnodion:

7.1  20C310B/EIA/RE – Cais llawn ar gyfer adeiladu fferm arae solar ynghyd ag offer ac isadeiledd cysylltiedig a gwaith ategol ar dir ger Rhyd y Groes, Rhosgoch

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am y tro cyntaf ar 27 Gorffennaf, 2016; roedd yr adroddiad yn nodi hanes y cais mewn perthynas â’r ffaith iddo gael ei ohirio sawl gwaith yng nghyfarfodydd y Pwyllgor. Cyflwynwyd apêl oherwydd diffyg penderfyniad ond fe’i tynnwyd yn ôl tra oedd yr Ymgeisydd yn gweithio i ddatrys y materion sy’n weddill gyda’r Cyngor. Cafodd cais i alw’r cais i mewn am benderfyniad gan Weinidogion Cymru ei wrthod mewn llythyr dyddiedig 7 Mawrth, 2017.  Cafodd y cais ei ohirio yn y cyfarfod ym mis Medi, 2017 i roi amser i’r ymgeisydd gyflwyno manylion lliniaru rhag sŵn – mae’r rhain wedi’u derbyn bellach ac mae’r ymgynghoriad angenrheidiol wedi digwydd.

 

Dywedodd Mr. Gordon Warren (yn erbyn y cynnig) ei fod yn darllen datganiad ar ran Mr. Roger Dobson o Gemaes. Mae Mr. Dobson yn byw yng Nghemaes lle mae’n Gynghorydd Cymuned. Mae’r datganiad hefyd ar ran trigolion Cemaes, pobl Gogledd Ynys Môn fel y cânt eu cynrychioli gan chwe Chyngor Cymuned, ac Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig. Dywedai’r datganiad nad oeddynt yn erbyn ynni adnewyddadwy a phŵer solar, fodd bynnag, roeddynt yn credu mai’r lle gorau i bŵer solar oedd yn yr amgylchedd adeiledig yn agos at lle byddai’n cael ei ddefnyddio h.y. ar doeau adeiladau neu ar safleoedd tir llwyd, ac nid ar dir amaethyddol da sy’n bell o’r defnyddwyr a lle byddai colledion o ganlyniad i drosglwyddo aneffeithlon. Mae’r ymgeisydd yn dadlau y bydd gan y cynllun hwn gapasiti o 49.9MW ac y bydd yn cyflenwi pŵer i 15,500 o gartrefi ond nid ydynt yn cyfaddef y byddai’r allbwn defnyddiadwy yn llai na 10% o’r ffigwr hwnnw. Ar y diwrnod mwyaf heulog ym mis Mehefin bydd paneli solar yn cynhyrchu ynni pan fo’i angen leiaf, ond ar y nosweithiau tywyll yn y gaeaf pan mae’r mwyaf o angen am bŵer, ni fyddant yn cynhyrchu dim. Fodd bynnag, i roi hyn mewn cyd-destun, byddai angen oddeutu 500 o ffermydd solar 50MW yn gorchuddio hanner arwynebedd tir Ynys Môn i amnewid Wylfa Newydd.

 

Mae’r datblygiad wedi’i gynllunio mewn ardal sy’n gyfoeth o olion archeolegol. Mae’r Awdurdod Cynllunio wedi gadael allan o’r adroddiad yr hyn a ysgrifennodd Gwasanaeth Archeolegol Gwynedd ‘… heb ymchwiliad pellach – hynny yw, Agor Ffosydd treial, ni fydd gennych ddealltwriaeth ddigonol o’r amgylchedd hanesyddol i ddarparu sail deallus i’ch penderfyniad’. Mae’r ymgeisydd yn honni na fyddai unrhyw effaith sylweddol ar fwynderau’r dirwedd neu fwynderau gweledol ac mai effaith fach fyddai yna ar eiddo preswyl, fodd bynnag mae trigolion lleol wedi dangos bod hyn yn anghywir yn ogystal â’r honiad gan yr ymgeisydd gan yw’r datblygiad yn amlwg o’r A5025. Cwestiynir beth yw pwynt cael Cynllun Datblygu ar y Cyd os yw’n cael ei anwybyddu am resymau amheus ychydig fisoedd ar ôl ei fabwysiadu. Mae’r datblygwr yn ansensitif ac mae  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7