8 Ceisiadau Economaidd PDF 310 KB
8.1 19C842E/1/TR/ECON – Parc Cybi, Caergybi
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
8.1 19C842E/1/TR/ECON - Cais llawn ar gyfer codi gwesty newydd, isadeiledd cysylltiedig â gwaith gwrthglawdd ym Mharc Cybi, Caergybi.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig ac yn amodol ar y trafodaethau pellach sydd i’w cynnal rhwng Swyddogion a’r Ymgeisydd mewn perthynas ag amodau ychwanegol i’w hatodi i’r cais.
Cofnodion:
8.1 19C842E/1/TR/ECON – Cais llawn ar gyfer codi gwesty newydd, isadeiledd cysylltiedig a gwaith gwrthglawdd ym Mharc Cybi, Caergybi.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn groes i’r cynllun datblygu.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais yn gais llawn ar gyfer codi gwesty yn Stad Ddiwydiannol Parc Cybi. Mae safle’r cais o fewn ardal AHNE ac mae Maen Hir Tŷ Mawr a Siambr Gladdu Trefignath wedi eu lleoli i’r de-ddwyrain ac maent wedi eu gwahanu o’r safle gan ardal o dyfiant a llwybr. Mae’r eiddo preswyl agosaf wedi’u lleoli ger y B545, Ffordd Trearddur. Er bod safle’r cais wedi’i leoli o fewn ffin y setliad, mae polisi CYF1 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yn nodi bod tir ac unedau ar safleoedd cyflogaeth presennol megis Parc Cybi wedi eu diogelu ar gyfer mentrau cyflogaeth/busnes. Mae Polisi CYF5 ‘Defnyddiau amgen o safleoedd cyflogaeth cyfredol’ yn caniatáu defnyddiau amgen mewn amgylchiadau arbennig ar yr amod eu bod yn cydymffurfio â’r meini prawf a restrir. Nododd fod prawf dilyniannol wedi’i gynnal sy’n dangos nad oes safle addas arall ar gael ar gyfer datblygiad o’r fath. Nododd ymhellach y bydd y datblygiad angen 15 o staff amser llawn a 15 o staff rhan-amser i weithio yn y gwesty. Mae’r Uned Datblygiad Economaidd yn cefnogi’r cais yn amodol ar gais bod yr ymgeisydd yn cefnogi codi bwrdd gwybodaeth i annog twristiaeth, yn bodloni gofynion iaith Gymraeg o ran arwyddion ac yn creu swyddi lleol yn yr ardal. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod angen gosod amodau ychwanegol ar unrhyw ganiatâd cynllunio o ran materion lliniaru a godwyd gan ymgyngoreion statudol fel y nodwyd yn yr adroddiad a bydd angen cynnal trafodaethau pellach â’r datblygwr cyn rhyddhau unrhyw ganiatâd cynllunio.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd R. Thomas, Aelod Lleol ei fod yn cefnogi’r cais ond pwysleisiodd yr angen am arwyddion dwyieithog yn y gwesty ac y dylid cael arwyddion yn cynnwys gm wybodaeth hanesyddol y tu allan i’r datblygiad.
Cynigiodd y Cynghorydd T.L. Hughes MBE y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd K.P.Hughes.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r 4 amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig ac yn amodol ar y trafodaethau pellach sydd i’w cynnal rhwng Swyddogion a’r Ymgeisydd mewn perthynas ag amodau ychwanegol i’w hatodi i’r cais.