12 Gweddill y Ceisiadau PDF 226 KB
12.1 46C168D/DA – Trearddur House, Bae Trearddur
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
12.1 46C168D/DA - Cais am faterion a gadwyd yn ôl ar gyfer codi annedd sydd yn cynnwys balconi ar dir yn Trearddur House, Bae Trearddur.
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol a hynny am y rhesymau a roddwyd.
Cofnodion:
12.1 46C168D/DA – Cais am faterion a gadwyd yn ôl ar gyfer codi annedd sydd yn cynnwys balcony ar dir yn Trearddur House, Bae Trearddur
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol.
Dywedodd y Cadeirydd bod yr Aelodau Lleol wedi gwneud cais am ymweliad safle o ganlyniad i effaith y datblygiad ar y tirlun, a mwynderau a thrigolion lleol a’r ffaith bod y safle o fewn ardal sensitive.
Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts y dylid cynnal ymweliad safle ar sail y materion a godwyd gan yr Aelodau Lleol. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams.
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol a hynny am y rhesymau a roddwyd.