Mater - cyfarfodydd

Applications Arising

Cyfarfod: 06/12/2017 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 7)

7 Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 4 MB

7.1  20C310B/EIA/RE – Rhyd y Groes, Rhosgoch

7.2  20C313AFfordd y Felin, Cemaes

7.3  24C300A/ECON – Tyn Rhos Fawr, Dulas

7.4  28C472ECartref, Ffordd y Stesion, Rhosneigr

7.5  38C180F/VAR – Gilfach Glyd, Mynydd Mechell

7.6  39C285D – Lon Gamfa, Porthaethwy

7.7  46C168D/DA – Trearddur House, Trearddur

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

7.1 20C310B/EIA/RE – Cais llawn i adeiladu fferm arae solar 49.99MW ynghyd ag offer, isadeiledd a gwaith ategol cysylltiedig ar dir ger Rhyd y Groes, Rhosgoch

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig a rhoi pwerau dirprwyedig i Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio ychwanegu, diwygio neu ddileu amodau fel y bydd angen.

 

7.2 20C313A – Cais ôl-weithredol ar gyfer codi 14 o anheddau fforddiadwy, adeiladu mynedfa a ffordd fewnol newydd, ynghyd â gorsaf garthffosiaeth ar dir oddi ar Ffordd y Felin, Cemaes

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig, ynghyd â Chytundeb A106 i sicrhau y bydd yr unedau arfaethedig yn rhai fforddiadwy a chyfraniad ariannol sy'n ymwneud â’r ddarpariaeth llecynnau agored.

 

7.3 24C300A/ECON – Creu llynnoedd i ddibenion pysgota / cychod hamdden, codi siop / caffi a storfa ategol ynghyd â ffyrdd mynediad cysylltiedig a mannau parcio, ynghyd â gosod tanc septig newydd ar dir sy'n rhan o Tyn Rhos Fawr, Dulas

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar  gwblhau cytundeb cyfreithiol a chyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.4 28C472E – Cais llawn i godi 2 annedd (un a fydd yn cynnwys balconi) ar dir ger Cartref, Ffordd yr Orsaf, Rhosneigr

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais i ganiatáu i'r ymgeisydd gyflwyno'r hysbysiad angenrheidiol i’r tirfeddianwyr.

 

7.5 38C180F/VAR – Cais o dan Adran 73 i amrywio amod (02) yng nghaniatâd cynllunio cyfeirnod 38C180D (cais amlinellol ar gyfer codi annedd a mynediad i gerbydau) er mwyn caniatáu estyniad amser ar gyfer cyflwyno cais materion a gadwyd yn ôl yn Gilfach Glyd, Mynydd Mechell

 

PENDERFYNWYD cadarnhau'r penderfyniad i ganiatáu'r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog ac am y rhesymau a roddwyd yn y cyfarfod blaenorol.

 

7.6 39C285D – Cais llawn i godi 17 annedd ar dir yn Lôn Gamfa, Porthaethwy

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle yn unol â chais yr Aelodau Lleol ac am y rhesymau a roddwyd.

 

7.7 46C168D/DA – Cais materion a gadwyd yn ôl ar gyfer codi annedd sy'n cynnwys balconi ar dir yn Trearddur House, Trearddur

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig ynghyd ag amod ychwanegol sy’n ymwneud â draenio.

Cofnodion:

7.1 20C310B/EIA/RE – Cais llawn i adeiladu fferm arae solar 49.99MW ynghyd ag offer, isadeiledd a gwaith ategol cysylltiedig ar dir ger Rhyd y Groes, Rhosgoch

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan i’r Pwyllgor, yn y cyfarfod ar 8 Tachwedd 2017, benderfynu gwrthod y cais yn groes i argymhellion y Swyddog ar y sail nad yw’r cais yn eithriad digonol i ganiatáu gwyro oddi wrth bolisi ADN 2 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (Ynys Môn a Gwynedd). 

 

Dywedodd y Cynghorydd Richard Griffiths, Aelod Lleol, ei fod yn annerch y Pwyllgor er mwyn gwrthwynebu’n gryf i’r cais hwn; roedd hefyd yn cynrychioli trigolion lleol Llanbadrig sydd â phryderon sylweddol mewn perthynas â’r cais hwn yn Rhyd y Groes. Nododd fod trigolion lleol yn cefnogi prosiect Wylfa Newydd ond y byddai’r datblygiad sylweddol hwn, sef fferm arae solar yn yr ardal yn rhoi straen gormodol ar y gymuned. Mae’r Cynghorau Cymuned lleol hefyd yn gwrthwynebu’r datblygiad hwn. Aeth ymlaen i ddweud bod amheuaeth am y pŵer a gaiff ei gynhyrchu gan y datblygiad hwn; mae’r ymgeisydd wedi dweud y bydd y capasiti o 49.9MW yn pweru 15,500 o gartrefi. Bydd y datblygiad arfaethedig, os caiff ei gymeradwyo, yn creu traffig trwm i ac o’r safle. Mynegodd y dylai’r panelau solar hyn fod ar doeau tai ac eiddo masnachol ac nid ar dir amaethyddol ac yn sicr nid mewn cymunedau gwledig. Gofynnodd y Cynghorydd Griffiths i’r Pwyllgor wrando ar bryderon trigolion lleol Llanbadrig ac i gadarnhau ei benderfyniad i wrthod y cais.     

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio at y rhesymau dros wrthod y cais yn y cyfarfod blaenorol fel y nodwyd yn yr adroddiad. Nododd bod llythyrau o gefnogaeth hefyd wedi dod i law gan Gyfeillion y Ddaear a pherchnogion tir Rhyd y Groes. Roedd llythyrau gwrthwynebu pellach hefyd wedi eu derbyn gan drigolion Buarth y Foel a gan Gyngor Diogelu Cymru Wledig. Mae barn gyfreithiol annibynnol ar y penderfyniad i wrthod y cais yng nghyfarfod blaenorol y Pwyllgor hwn wedi cael ei gyflwyno gan yr ymgeisydd ac yn benodol ynghylch a yw’r cynnig yn cydymffurfio â pholisi ADN2 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno apêl yn erbyn penderfyniad y Pwyllgor i wrthod y cais a bod yr apêl yn y broses o gael ei dilysu cyn cael ei chyflwyno i’r Arolygiaeth Gynllunio. Nodwyd bod gan yr Awdurdod gyfnod o bedair wythnos er mwyn penderfynu ar y cais, unwaith y bydd yr apêl wedi’i dilysu, cyn iddi gael ei chyflwyno i’r Arolygiaeth Gynllunio i’w phenderfynu. Nododd ymhellach ei bod yn bwysig adrodd bod yr ymgeisydd wedi gofyn am Wrandawiad gan yr Arolygiaeth Gynllunio mewn perthynas â’r cais a’u bod wedi nodi y byddant yn gwneud cais am gostau yn erbyn y Cyngor, ac y gallai’r costau hynny fod yn fod yn sylweddol.   

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio ymhellach bod cyfarfod blaenorol y cyfarfod hwn ond wedi rhoi un rheswm dros wrthod sef nad yw’r cais yn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7