12 Gweddill y Ceisiadau PDF 709 KB
12.1 11LPA657/CC – Tŷ’r Warden, Amlwch
12.2 19LPA1038/CC – Maes yr Ysgol, Caergybi
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
12.1 11LPA657/CC – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn Wardens House, Amlwch
Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.2 19LPA1038/CC – Cais llawn ar gyfer dymchwel y modurdai presennol ynghyd â chodi 4 annedd un person yn cynnwys lle parcio yn Maes yr Ysgol, Caergybi
Penderfynwyd ymweld â safle’r cais yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rheswm a roddwyd.
Cofnodion:
12.1 11LPA657/CC – Cais llawn i addasu ac ehangu Tŷ’r Warden, Amlwch.
Cyfeiriwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gais gan yr Awdurdod ar dir y Cyngor.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais yn un ar gyfer estyniad cymharol fychan i’r ystafell hawul fel y gellir ei defnyddio fel ystafell gymunedol yn adeilad Tŷ’r Warden. Bydd deunyddiau’r to a’r ffenestri yr un fath â rhai’r adeilad presennol. Ystyrir bod y cynllun yn dderbyniol ac ni fydd ei weithredu yn achosi unrhyw effaith andwyol i’r ardal na’i thrigolion.
Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.2 19LPA1038/CC – Cais llawn i ddymchwel y modurdai presennol ynghyd â chodi 4 annedd i bobl sengl yn cynnwys lle parcio ym Maes yr Ysgol, Caergybi.
Cyfeiriwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Cyngor sy’n ei gyflwyno.
Cynigiodd y Cynghorydd Shaun Redmond, a oedd yn siarad fel Aelod Lleol, y dylai Aelodau’r Pwyllgor ymweld â’r safle fel y gallant ystyried materion diogelwch priffyrdd a allai godi o ganlyniad i’r datblygiad arfaethedig oherwydd ei leoliad ger ysgol gynradd.
Eiliwyd y cais am ymweliad safle gan y Cynghorydd Kenneth Hughes.
Penderfynwyd y dylid ymweld â’r safle yn unol â chais yr Aelod lleol a hynny am y rheswm a roddwyd.